Newyddion S4C

John Lewis yn cadarnhau y bydd yn torri 'miloedd o swyddi'

28/01/2024
JOHN LEWIS

Bydd John Lewis yn cael gwared â swyddi fel rhan o gynllun i “ddychwelyd i elw” dros y pum mlynedd nesaf, mae’r cwmni wedi cadarnhau.

Daw’r cadarnhad yn dilyn adroddiad gan bapur newydd The Guardian ddydd Sadwrn, oedd yn honni ei fod yn bwriadu cael gwared â hyd at 11,000 o swyddi ledled y cwmni – sef 10% o’i weithlu.

Mewn datganiad i ITV News, mae John Lewis bellach wedi cadarnhau ei benderfyniad i gael gwared â'r swyddi, ond heb fanylu ar faint o bobl yn union bydd yn colli eu swyddi.

Mae gan y cwmni cynllun i “ddychwelyd” i sefyllfa lle maen nhw’n creu elw, meddai, a bydd rhaid cael gwared â swyddi er mwyn gallu ‘neud hynny.

Ond byddai’n “amhriodol” trafod unrhyw fanylion ynghlwm â’r cynllun cyn i’w weithwyr gallu cael gwybod yn gyntaf, ychwanegodd.

Daw’r penderfyniad wrth i gyflogau gweithwyr parhau i gynyddu tra bod elw’r cwmni’n parhau i ostwng, yn ôl adroddiadau The Guardian

Mae’r cwmni wedi colli £230m yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ychwanegodd yr adroddiad.

Mae rhai gweithwyr eisoes wedi mynegi eu rhwystredigaeth gyda’r penderfyniad, gydag eraill wedi’u gwylltio gyda "chyfathrebu mewnol gwael" y cwmni.

Mae John Lewis eisoes wedi cael gwared ar filoedd o swyddi ers iddo lansio cynllun busnes o’r newydd bron i bedair blynedd yn ôl.

Cafodd nifer o siopau John Lewis eu cau ar y stryd fawr, ac roedd sawl aelod o’r pencadlys hefyd wedi colli eu swyddi fel rhan o’r cynlluniau rheiny.

Ddydd Iau, cyhoeddodd y cwmni y byddai’n hefyd haneru gwerth ei becyn tâl diswyddo wrth iddo geisio mynd i’r afael â’i golledion.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.