Newyddion S4C

Sgandal Swyddfa'r Post: Galw am ddileu cytundebau Cymreig Fujitsu

26/01/2024

Sgandal Swyddfa'r Post: Galw am ddileu cytundebau Cymreig Fujitsu

Sgandal Swyddfa'r Post.

Un o'r achosion mwyaf o gamweinyddu cyfiawnder yn hanes ein system gyfreithiol.

Wythnos dwetha, nath cwmni Fujitsu oedd yn rhedeg system gyfrifiadurol ddiffygiol Horizon arweiniodd at erlyn cannoedd o bobl ar gam, ymddiheuro am eu rôl.

Fujitsu apologises and is sorry for our part in this appalling miscarriage of justice.

Mae'r cwmni wedi dweud na fyddan nhw'n gwneud cais am gontractau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig tan bod yr ymchwiliad cyhoeddus i'r sgandal yn dod i ben.

Yma yng Nghymru, mae 'di dod i'r amlwg bod miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus wedi'i wario ar gytundebau gyda Fujitsu a hynny wedi i fanylion y sgandal ddod i'r amlwg ac i 39 o is-bostfeistri glirio'u henwau yn Uchel Lys Llundain.

Un o'r rhai ga'th ei garcharu ar gam yw Noel Thomas.

Mae'n grac bod arian cyhoeddus Cymreig wedi'i wario ar wasanaeth Fujitsu.

Mae'n synnu chi i fod yn onast. Bod y contracts 'ma'n mynd yn eu blaenau yn y wlad yma.

Ac yn galw nawr am ymchwiliad gan Lywodraeth Cymru ac am ddileu'r cytundebau gyda'r cwmni.

Faswn i'n licio gweld nhw'n dod a fo i ben ar ôl yr holl stŵr sy 'di bod ers dros 20 mlynedd i mi.

Mae Newyddion S4C wedi canfod tri chytundeb Cymreig gyda Fujitsu sydd wedi'u harwyddo neu eu hymestyn ers i'w rôl yn sgandal Swyddfa'r Post ddod i'r golwg.

Mae'r tri yn ymwneud a Thrafnidiaeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod mai nhw oedd yr awdurdod cytundebu gyda'r ddau gynta, ar gyfer systemau tocynnau clyfar gwerth mwy na £2 filiwn dros ddwy flynedd.

Maen nhw yn dod i ben ym mis Gorffennaf eleni.

Ond mae'r Llywodraeth yn dweud bod y trydydd yn fater i Drafnidiaeth Cymru yn unig.

Cytundeb 5 mlynedd gwerth dros £5 miliwn i gynnal offer technegol oedd i fod yn dod i ben ym mis Ebrill eleni.

Ry'n ni wedi darganfod i'r cytundeb yna gael ei ymestyn heb i gwmnïau eraill allu wneud cais am y gwaith ym mis Ebrill y llynedd.

Yn ôl yr Aelod Senedd yma, mae 'na ddyletswydd moesol ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r holl gontractau lle mae arian cyhoeddus yn cael ei roi i gwmni Fujitsu ar frys.

Mae enw'r cwmni yma nawr fel baw ym marn y cyhoedd.

Mae'n rhaid i'r Llywodraeth ymateb i hyn ac esbonio pam maen nhw wedi bod yn cario 'mlaen i fuddsoddi arian cyhoeddus gyda'r cwmni yma lle mae 'na gymaint o gwestiynau heb eu hateb.

Yn ôl Trafnidiaeth Cymru, roedd hi'n rhatach adnewyddu eu contract gyda Fujitsu na phrynu offer o'r newydd.

Nath Llywodraeth Cymru ddim dweud a fyddai hawl gan y cwmni neud cais o'r newydd am y cytundebau sy'n dod i ben yn hwyrach eleni.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.