Prinder deintyddion: Mam wedi 'gorfod defnyddio pleiars i dynnu dannedd ei merch'
Cafodd mam o Blackpool ei gorfodi i dynnu dannedd ei merch chwech oed gyda phleiars yn sgil prinder deintyddion yn y dref, yn ôl Aelod Seneddol.
Dywedodd AS De Blackpool Scott Benton wrth Dy'r Cyffredin fod llawer o'i etholwyr wedi cwyno am ddiffyg mynediad i wasanaethau deintyddol GIG Lloegr.
"Y gred yw bod 40% o fy etholwyr, 35,000 o bobl, ddim yn gallu cael mynediad at driniaeth y GIG ar hyn o bryd," meddai.
"Yr wythnos diwethaf yn unig, cefais wybod gan fam ei bod wedi gorfod tynnu dannedd ei merch chwech oed ei hun gyda phleiars oherwydd ei bod hi mewn cymaint o boen a ddim yn gallu cael mynediad at y driniaeth oedd ei hangen ar ei theulu.
"Mae hwn yn achos ofnadwy ac yn dorcalonnus. Yn anffodus, dydw i ddim yn credu ei fod yn un unigryw.
"Mae miloedd ar filoedd o deuluoedd lleol heb fynediad i ddeintydd y GIG. Mae'r diffyg gofal yn creu problemau iechyd sylweddol i lawer o bobl yn y dyfodol ac yn y pen draw yn costio mwy i'r GIG yn y tymor hir."
'Dim triniaeth'
Cafodd y mater ei godi yn ddiweddar hefyd yn San Steffan gan y Blaid Lafur, gyda’u hymchwil yn dangos bod merched beichiog yn Blackpool yn cael eu gwrthod am driniaeth ddeintyddol am ddim oherwydd nad yw practisau deintyddol y GIG yn y dref yn derbyn cleifion newydd sy’n oedolion.
Wrth ymateb i bryderon Mr Benton, dywedodd yr ysgrifennydd iechyd cysgodol Wes Streeting: "Mae hyd yn oed ASau Ceidwadol yn cyfaddef bellach bod deintyddiaeth y GIG wedi torri ac wedi gadael cleifion yn gorfod dewis rhwng mynd yn breifat neu ddim triniaeth o gwbl."
Dywedodd yr ysgrifennydd iechyd Victoria Atkins yn Nhŷ'r Cyffredin yn gynharach y mis hwn fod buddsoddiad yn golygu bod 800,000 yn fwy o blant yn Lloegr wedi gweld deintydd yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2023.