Apêl am bedwar llygad-dyst wedi ymosodiad rhyw difrifol yng Nghaerdydd
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am bedwar llygad-dyst wedi ymosodiad rhyw difrifol yng nghanol dinas Caerdydd.
Mae'r llu yn apelio am gymorth y cyhoedd i adnabod pedwar llygad-dyst posibl a gafodd eu gweld ar gamerâu cylch-cyfyng.
Mae un dyn wedi ei arestio a'i gyhuddo, ac nid yw'r heddlu yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad yn ystod oriau mân 27 Rhagfyr.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Kath Barry o Heddlu De Cymru: "Rydym yn apelio ar y pedwar unigolyn yma yn y CCTV, neu unrhyw un a allai eu hadnabod i gysylltu gyda Heddlu De Cymru fel ein bod ni'n gallu siarad gyda nhw.
"Hoffwn bwysleisio nad ydyn nhw wedi gwneud unrhyw beth yn anghywir, maen nhw'n llygad-dystion posib, a gallant fod â gwybodaeth bwysig a allai ein helpu gyda'n hymchwiliad.
"Rydym angen siarad gyda nhw am yr hyn y gallen nhw fod wedi ei weld tra yn ardal Heol St Mary a Sgwar Callaghan yn ystod oriau mân dydd Mercher, 27 Rhagfyr.
"Hoffwn ddiolch i'r gymuned am y gefnogaeth arbennig y maen nhw wedi ei ddarparu hyd yn hyn, sydd wedi ein helpu yn fawr."
Daeth llygad-dyst allweddol ymlaen wedi apêl am wybodaeth fis diwethaf, medden nhw.
Mae'r llu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2300438257.