Newyddion S4C

Arholwyr gyrru Cymru, Lloegr a’r Alban yn cyhoeddi streic

26/01/2024
Dysgwr gyrru

Bydd bron i 1,000 o arholwyr profion gyrru ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban yn streicio am bedwar diwrnod wedi anghydfod dros lwythi gwaith.

Bydd aelodau o undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) sy’n gweithio mewn 270 o ganolfannau prawf yn streicio ar 8, 9, 10 ac 11 Chwefror.

Maen nhw’n protestio yn erbyn “cynllun diffygiol” Llywodraeth y DU i ymdrin ag amseroedd aros hir am brofion gyrru.

Mae disgwyl iddyn nhw gynnal 150,000 o brofion erbyn diwedd mis Mawrth.

Mae’r arholwyr gyrru yn dweud fod cynlluniau’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Mark Harper yn peri risgiau diogelwch “sylweddol” iddyn nhw a’u cwsmeriaid.

Mae yna hefyd bryderon y bydd eu telerau ac amodau gwaith yn cael eu herydu.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol y PCS Mark Serwotka: “Mae ein haelodau eisoes yn gweithio’n galed i glirio’r rhestr aros am brofiad.

“Mae angen adnoddau ychwanegol arnynt, arholwyr ychwanegol, nid cyfarwyddiadau gan Mark Harper.”

Dywedodd prif weithredwr yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA), Loveday Ryder ei fod yn  “siomedig y bydd streic gan aelodau’r PCS yn mynd yn ei blaen.

“Mae dysgwyr gyrru yn disgwyl gwasanaeth saith diwrnod yr wythnos, ac, fel corff sy’n cael ei ariannu’n gyhoeddus, mae’r DVSA eisiau darparu hynny.

“Dylai ymgeiswyr fynd i’w prawf gyrru fel arfer, oni bai y cysylltir â nhw’n uniongyrchol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.