Newyddion S4C

Erlyn ymgyrchydd iaith am gosb tocyn parcio 'wedi costio £10,000' hyd yma

26/01/2024

Erlyn ymgyrchydd iaith am gosb tocyn parcio 'wedi costio £10,000' hyd yma

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi gofyn i gwmni meysydd parcio ystyried gwerth parhau ag achos cyfreithiol yn erbyn yr ymgyrchydd iaith Toni Schiavone.

Cafodd apêl ar sail technegol gan gwmni One Parking Solution ei ganiatáu mewn llys yn Aberystwyth ddydd Gwener.

O ganlyniad fe fydd modd i'r cwmni barhau i erlyn Toni Schiavone dros hysbysiad cosb parcio a dderbyniodd yn 2020. Dyma'r trydydd achos iddo ei wynebu mewn cyswllt gyda'r mater.

Dywedodd y barnwr, Gareth Humphreys, y dylai’r cwmni ystyried yn ofalus gwerth parhau gydag achos sydd eisoes wedi bod yn “hir, anffodus tu hwnt” ac sydd wedi costio dros £10,000 i’r cwmni parcio hyd yma.

Dywedodd y barnwr bod gan y cwmni 28 diwrnod i benderfynu os oedd am barhau i erlyn Mr Schiavone ai peidio, ac argymhellodd bod y cwmni yn ystyried gwerth a budd parhau â’r achos. 

Wrth siarad yn y llys ar ddiwedd ei achos, dywedodd Toni Schiavone: “Gallai’r mater yma fod wedi cael ei ddatrys yn hawdd iawn ac yn gyflym iawn trwy ddarparu Hysbysiad Cosb Parcio Cymraeg neu ddwyieithog, fyddai wedi costio tua £60 i’w gyfieithu. 

"Mae’n amlwg erbyn hyn bod gan yr hawlydd fwy o ddiddordeb mewn dial na mewn dangos parch at y Gymraeg. Yn fy marn i mae’r hawlydd wedi ymddwyn yn amharchus, yn afresymol ac yn ddialgar.

“Fe wnaeth One Parking Solutions gyflwyno costau o £10,156.70 i fi mewn llythyr ddoe hefyd. Mae hynny’n hollol amhriodol, yn fygythiad diangen ac yn dangos mai dial yw nod y cwmni.”

'Ymgynghori'

Ychwanegodd Cai Phillips, Is-gadeirydd grŵp Hawl i’r Gymraeg Cymdeithas yr Iaith: “Galwn ar One Parking Solutions i ollwng yr achos yn erbyn Toni, ac ar Gomisiynydd y  Gymraeg a Jermey Miles i gydnabod bod angen newid y Mesur y Gymraeg er mwyn cynnwys cwmnïau preifat, fel na allant erlyn unigolyn am fod eisiau byw yn Gymraeg.  

“Mae’r cwmni yma wedi dewis gwneud esiampl o Toni yn hytrach na darparu gwasanaeth Cymraeg syml, iawn. Mae’r achos yma’n dangos pa mor wan yw Mesur y Gymraeg 2011, nad yw’n rhoi hawliau i ni mewn gwirionedd mewn sawl maes.”

Dywedodd llefarydd dros Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni’n awyddus i weld pob sector yn cynyddu eu defnydd o'r Gymraeg ac mae cefnogi busnesau i ddatblygu eu gwasanaethau Cymraeg yn flaenoriaeth i ni.

"Fel Llywodraeth, rydyn ni’n canolbwyntio ar weithredu sy'n cael effaith ystyrlon ac ymarferol ar hyrwyddo'r Gymraeg a sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd. 

"Fel rhan o hyn, rydyn ni ar hyn o bryd yn dilyn rhaglen waith ar gyfer cyflwyno safonau'r Gymraeg i ragor o sectorau dros y blynyddoedd nesaf."

Fe ymatebodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg: “Fel rhan o’n gwaith hybu a hwyluso mae fy swyddogion mewn cyswllt uniongyrchol gyda nifer o gwmnïau parcio ac yn eu hannog i ystyried y Gymraeg ymhob elfen o’u gwaith ac mae nifer eisoes wedi ac yn addasu eu peiriannau, gwefannau ac apiau i gynnwys y Gymraeg.

“Mae Llywodraeth Prydain  wedi ymgynghori ar weithrediadau cwmnïau meysydd parcio preifat. Fe wnaethom nodi y dylai gwasanaethau parcio preifat yng Nghymru adlewyrchu’r ffaith fod gan y Gymraeg statws cyfartal yng Nghymru ac na ddylai gael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.”

Mae Newyddion S4C wedi gofyn i One Parking Solution am ymateb.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.