Newyddion S4C

Llywodraeth y DU wedi cael eu 'twyllo' gan benderfyniad Tata Steel ym Mhort Talbot medd AS

25/01/2024
Port Talbot

Mae AS Llafur dros Aberafan wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o gael eu "twyllo" gan benderfyniad Tata Steel i gau rhan o waith dur ym Mhort Talbot.

Dywedodd yr AS Stephen Kinnock bod gweinidogion y llywodraeth yn "mugs" am gael eu "twyllo" gan benderfyniad cwmni Tata Steel ar ddyfodol y safle.

Mae’r gweinidogion yn dadlau bod eu pecyn achub gwerth £500 miliwn wedi arbed 5,000 o swyddi uniongyrchol a miloedd yn rhagor yn y gadwyn gyflenwi drwy sicrhau bod Tata yn parhau i wneud dur yn y dref drwy ddull gwyrddach o ddefnyddio metel sgrap.

Ond dywedodd yr AS Llafur Stephen Kinnock eu bod yn "newid y stori" am Tata yn bygwth cerdded i ffwrdd o Dde Cymru, gan ychwanegu bod costau datgymalu ac adfer y safle “yn hollol afresymol”.

Roedd modd ei glywed yn gweiddi “mugs” wrth i’r gweinidog busnes Nusrat Ghani wrthod y feirniadaeth ac amddiffyn safbwynt y Llywodraeth.

'Anymarferol'

Dywedodd Ms Nusrat Ghani nad oedd parhau i gynhyrchu ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot “yn ymarferol nac yn fforddiadwy” ac y byddai’r cytundeb gyda Llywodraeth y DU yn helpu i drosglwyddo i gynhyrchiad dur mwy cynaliadwy, gwyrddach.

Ychwanegodd fod ymrwymiad y Llywodraeth i’r sector yn “glir” o ystyried ei bod yn buddsoddi yn safle Port Talbot.

“Yr opsiwn oedd nad yw gwneud dur bellach yn parhau ym Mhort Talbot na’r buddsoddiad yr ydym wedi’i ddarparu,” meddai.

Ond fe wnaeth Mr Kinnock ei chyhuddo hi a Llywodraeth y DU o newid y stori.

“Felly mae gweinidogion yn honni o hyd bod Tata Steel yn bygwth cau gwaith Port Talbot a cherdded i ffwrdd, ond maen nhw’n gwybod bod hynny’n ddi-bwrpas oherwydd costau datgymalu ac adfer gwaith dur Port Talbot.

“Yn erbyn y cefndir hwnnw gadewch i ni fod yn glir, a yw’n wir nad oedd unrhyw oblygiadau o gwbl ynghlwm wrth y £500 miliwn o arian trethdalwyr sydd wedi’i roi i Tata Steel a bod y £500 miliwn hwnnw wedi’i roi gan y Prif Weinidog i Tata Steel gyda hawl i ddiswyddo 2,800 o weithwyr dur?”

Bu'n rhaid i Lefarydd Tŷ'r Cyffredin, Syr Lindsay Hoyle ymyrryd i dawelu cecru yn y siambr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.