Sglods a Dybl Tops? Y chwaraewr dartiau Gerwyn Price yn gwneud cais i agor siop sglodion
Mae’r chwaraewr dartiau Gerwyn Price eisiau siop sglodion yn y pentref ble mae’n byw.
Mae’r cyn pencampwr y byd wedi cyflwyno cais cynllunio i drosi'r hen fferyllfa ym Markham, ar Ffordd Abernant yn Sir Caerffili, mewn i siop bysgod a sglodion.
Pe byddai’r cais yn cael ei ganiatau gan adran gynllunio Cyngor Caerffili, mi fyddai’r siop yn creu un swydd llawn amser a phedair swydd rhan amser, yn ôl dogfennau’r cais.
Mae adran iechyd amgylcheddol y cyngor wedi nodi bod yr adeilad mewn ardal “defnydd cymysg a phreswyl” ac wedi argymell na ddylai’r busnes fod ar agor y tu hwnt i 09.00-21.00 ddydd Llun i Sadwrn a 10.00-20.00 ar ddydd Sul.
Yn ôl undeb dartiau'r PDC, mae Price wedi ennill dros £630,000 mewn cystadlaethau dros y ddwy flynedd diwethaf.