Newyddion S4C

UDA: Dienyddio'r carcharor cyntaf gan ddefnyddio nwy nitrogen

25/01/2024
Kenneth Smith

Mae disgwyl i’r carcharwr cyntaf erioed gael ei ddienyddio gan ddefnyddio nwy nitrogen ddydd Iau yn yr Unol Daleithiau. 

Bydd Kenneth Eugene Smith, sy’n cael ei gadw mewn carchar yn Alabama, yn cael ei ddienyddio wedi iddo golli apêl munud olaf er mwyn atal y broses. 

Roedd Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau wedi rhwystro ymdrechion cyfreithwyr Mr Smith i’w achub gan ddisgrifio’r gosb fel un “creulon ac anarferol.”

Bydd y nwy nitrogen bellach yn llifo trwy fwgwd y bydd Mr Smith yn ei wisgo, ac mae disgwyl i’r broses gymryd hyd at 15 munud i'w ladd.

Mae Uwch Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Hawliau Dynol wedi galw am atal dienyddiad Mr Smith, gan ddweud bod y dull yn gyfystyr ag artaith neu driniaeth greulon neu ddiraddiol.

Mae ei gyfreithwyr hefyd wedi dweud bod y dull yn rhy newydd ac “heb wedi’i brofi,” gyda’r peryg o achosi iddo chwydu a thagu. 

Ond dywedodd talaith Alabama fod disgwyl iddo golli ymwybyddiaeth o fewn eiliadau, a marw o fewn munudau. 

Roedd Twrnai Cyffredinol y Wladwriaeth Steve Marshall eisoes wedi dweud mai dyma oedd y dull mwyaf “dyngarol” o'i ddienyddio. 

Hanes

Cafodd Kenneth Eugene Smith ei ddedfrydu yn 1989 wedi iddo lofruddio Elizabeth Sennet, oedd yn wraig i bregethwr. 

Cafodd Ms Sennet ei llofruddio gan Mr Smith a dyn arall, John Forrest Parker, ar ran gŵr y fenyw oedd yn 45 oed ar y pryd. Cafodd Mr Parker ei ddienyddio yn 2010.

Bu farw Ms Sennet ar 18 Mawrth 1988 ar ôl i’r dynion ymosod arni a’i thrywanu sawl gwaith, gan greu difrod yn y tŷ  fel ei bod yn ymddangos fel bod byrgleriaeth wedi digwydd. 

Y gred yw fod ei gŵr wedi cyflogi’r dynion i’w llofruddio er mwyn iddo allu casglu arian yswiriant ond fe gymerodd ei fywyd ei hun wrth i ymchwiliadau’r heddlu parhau. 

Dywedodd Mr Smith yr oedd yn bresennol pan gafodd Ms Sennet ei llofruddio ond nad oedd wedi ymosod arni.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.