Newyddion S4C

Priodas Pum Mil yn chwilio am gyplau ar gyfer cyfres newydd

25/01/2024
Priodas Pum Mil

Wrth i bobl ar draws Cymru ddathlu Dydd Santes Dwynwen ddydd Iau, mae'r gyfres boblogaidd Priodas Pum Mil yn chwilio am gariadon sydd eisiau cymryd rhan yn y gyfres nesaf. 

Fe fydd pennod olaf y gyfres bresennol yn cael ei darlledu nos Sul gyda phriodas Abbey a Danial o Bwllheli. 

Fe fydd eu teulu a'u ffrindiau yn trefnu eu priodas gyda chymorth y cyflwynwyr Emma Walford a Trystan Ellis-Morris, a'r cyfan angen bod yn llai na £5,000. 

Dywedodd Emma Walford: "Mae pob un rhaglen, pob un cwpwl, eu ffrindiau a’u teuluoedd, wedi bod yn arbennig.

"Mae’r gyfres yn fwy na jyst rhaglenni teledu, da ni’n trefnu diwrnod pwysicaf bywydau y cyplau a dwyt ti wir ddim isho siomi neb! Ond hyd yma, efo bron i 50 o briodasau wedi bod, mae hi’n parhau yn llwyddiannus."

Image
Priodas Pum Mil
Emma Walford a Trystan Ellis-Morris

'Mentro'

Fe fydd y gyfres newydd yn dechrau fis Tachwedd eleni, a gall y briodas fod yn un draddodiadol neu yn un hollol wahanol. 

Mae priodasau ar y gyfres yn y gorffennol wedi amrywio o gael thema dartiau i thema Alice in Wonderland, a phennod yr wythnos diwethaf yn gweld Sara a Dan o Ddyffryn Nantlle yn priodi yn Gretna Green yn Yr Alban.

Ychwanegodd Emma Walford: "Baswn i’n annog unrhyw un sydd awydd priodi i wneud cais i’r rhaglen.

"Mae cymaint o brofiad efo ni fel tîm erbyn hyn, ond allwn ni ddim ei gwneud hi heb deulu a ffrindiau y cwpwl wrth gwrs.

"Does dim ots os oes thema neu beidio, bo’ chi am briodi adref yn lleol, neu falle am fentro yn bellach i ffwrdd."

 Mae modd gwneud cais trwy ddilyn y ddolen ganlynol www.priodas.cymru.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.