Newyddion S4C

Cynnig gwobr o £20,000 am wybodaeth am ddyn o'r brifddinas mewn achos honedig o geisio llofruddio

24/01/2024
Mohamoud Abdi

Mae Crimestoppers UK yn cynnig gwobr o £20,000 am wybodaeth am leoliad dyn o Gaerdydd sydd yn gysylltiedig ag achos honedig o geisio llofruddio.

Mae'r elusen wedi cynnig y wobr am leoliad Mohamoud Abdi, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel ‘Hozay’.

Dywedodd Crimestoppers UK bod nhw eisiau dod o hyd i Mr Abdi ar ôl ymosodiad treisgar ym mis Gorffennaf 2022.

Cafodd dyn nad oedd Mr Abdi yn ei adnabod, ei drywanu nifer o weithiau mewn parti yn ardal Trelluest, Caerdydd.

Credir bod Abdi, sy'n byw yng Nghaerdydd, wedi ffoi o'r ardal er mwyn osgoi cael ei arestio.

Y gred yw bod yr ymosodiad wedi achosi anaf difrifol i'r dioddefwr.

Mae Crimestoppers UK yn cynghori'r cyhoeddi i beidio mynd at Abdi os ydyn nhw'n ei weld. 

Dywedodd Hayley Fry, Rheolwr Cenedlaethol Cymru Crimestoppers UK: “Rydym yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am Mohammed Abdi i ddod ymlaen a siarad â’n helusen cyn gynted â phosibl. 

"Mae modd i chi siarad hefo ni yn ddienw. Mae Crimestoppers yn bodoli i roi opsiwn i bobl os yw’n well ganddynt beidio â siarad â’r heddlu ond eu bod nhw eisiau helpu i gadw ein cymunedau’n ddiogel."

Fe allwch chi gysylltu gyda Crimestoppers ar eu gwefan neu drwy alw 0800 555 111.

Llun: Crimestoppers UK

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.