Llofruddiaethau Nottingham: Erlynwyr yn derbyn ple dyn nad oedd yn ei iawn bwyll
Mae erlynwyr wedi derbyn ple di-euog dyn oedd yn gyfrifol am ladd tri unigolyn yn Nottingham ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.
Clywodd barnwr fod Valdo Calocane, sydd yn wreiddiol o Sir Benfro, wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiadau o lofruddiaeth a dynladdiad, a'i fod yn dioddef gyda salwch meddwl "difrifol" iawn.
Dywedodd Karim Khalil KC ar ran yr erlyniad wrth Lys y Goron Nottingham ddydd Mawrth fod teulu'r tri fu farw wedi bod yn rhan o'r drafodaeth cyn i ble Calocane, 32 oed, gael ei derbyn.
Bu farw Grace Kumar a Barnaby Webber, y ddau yn 19 oed, yn ystod ymosodiad ar Ffordd lkeston yn Nottingham ar 13 Mehefin y llynedd.
Cafodd corff Ian Coates, 65, ei ddarganfod ar Ffordd Magdala yn y ddinas yn ddiweddarach.
Cafodd un person ei gludo i’r ysbyty mewn cyflwr difrifol ac fe ddioddefodd dau arall fân anafiadau yn y digwyddiad ar Stryd Milton.
Roedd Calocane, oedd yn ateb i'r enw Adam Mendes yn y llys, wedi pledio'n euog mewn gwrandawiad cynharach i ddynladdiad Barnaby Webber a Grace Kumar.
Fe blediodd yn euog hefyd i geisio llofruddio tri unigolyn gafodd eu taro gan fan yr oedd wedi ei dwyn.
Mae penderfyniad yr erlyniad i dderbyn y pledion a gyflwynwyd gan Calocane ym mis Tachwedd yn golygu na fydd yn wynebu achos llys am lofruddiaeth.
Mae Calocane, a ymddangosodd yn y doc yn gwisgo siwt dywyll a chrys glas golau, nawr yn wynebu gwrandawiad dedfrydu. Mae disgwyl iddo bara am tua dau ddiwrnod.