Newyddion S4C

Pwy yw'r Houthis sy'n ymosod ar longau'n y Môr Coch?

23/01/2024
Houthi

Mae tensiynau yn y Dwyrain Canol wedi codi ar ôl i wrthryfelwyr Houthi, gyda chefnogaeth Iran, ddechrau ymosod ar longau sy'n teithio drwy'r Môr Coch.

Nos Lun, fe darodd lluoedd y DU a’r Unol Daleithiau sawl safle a ddefnyddiwyd gan y grŵp o wrthryfelwyr am yr eildro y mis hwn.

Fe wnaethant ddefnyddio taflegrau Tomahawk o longau rhyfel ac awyrennau i daro safleoedd storio taflegrau yr Houthi, yn ôl swyddogion.

Mae’r Arglwydd Cameron wedi dweud bod yr ymosodiadau wedi eu cynllunio i “anfon y neges gliriaf posib” i’r gwrthryfelwyr “ein bod yn cefnogi ein geiriau a’n rhybuddion gyda gweithredoedd”.

Dywedodd Ysgrifennydd Tramor Llywodraeth y DU ddydd Mawrth: “Ers i ni weithredu ddiwethaf 10 diwrnod yn ôl, mae dros 12 ymosodiad wedi bod ar longau gan yr Houthis yn y Môr Coch.

“Mae’r ymosodiadau hyn yn anghyfreithlon, maen nhw’n annerbyniol. Yr hyn rydym wedi’i wneud eto yw anfon y neges gliriaf bosibl y byddwn yn parhau i ddiraddio eu gallu i gyflawni’r ymosodiadau hyn wrth ddatgan yn glir ein bod yn cefnogi ein geiriau a’n rhybuddion gyda gweithredu.”

Pwy yw'r Houthis?

Mae’r grŵp Islamaidd yn dweud eu bod wedi dechrau ymosod ar longau ar hyd llain gul o fôr rhwng Yemen a dwyrain Affrica, sy’n llwybr masnach ryngwladol allweddol, mewn ymgais i ddod ag ymosodiadau Israel yn erbyn Hamas yn Gaza i ben.

Mae'r grŵp milwriaethus Shia yn gysylltiedig â Tehran, fel y mae Hamas a Hezbollah, ac yn ceisio lleihau'r dylanwad gorllewinol yn y Dwyrain Canol.

Daeth y grŵp i'r amlwg yn y 1990au ac mae eu cefnogwyr yn bennaf yn dod o rengoedd Mwslimiaid Zaidi Shia a llwyth yr Houthi.

Roedd honiadau fod y cyn-arlywydd Ali Abudllah Saleh wedi tyfu’n rhy agos at Saudi Arabia ac Israel, a thyfodd tensiynau rhyngddynt ers sawl blwyddyn bellach.

Arweiniodd marwolaeth sylfaenydd y grŵp, Hussein al Houthi, mewn ymosodiad gan fyddin Yemen, at wrthryfel Houthi yn 2004.

Yn ddiweddarach cymerodd y grŵp ran yn chwyldro'r wlad yn 2011.

Cipio'r brifddinas

Cododd y gwrthryfelwyr i amlygrwydd ar ôl cipio prifddinas Yemen, Sana’a yn 2014, gan sbarduno rhyfel cartref yr amcangyfrifir ei fod wedi lladd bron i 400,000 o bobl.

Fe wnaethon nhw gipio mwy o diriogaeth ar ôl ochri â Mr Saleh yn 2015, ac maen nhw bellach yn rheoli llawer o orllewin Yemen i lawr i Gulfor Bab al Mandeb, darn 16 milltir o ddŵr sy'n nodi'r fynedfa i'r Môr Coch.

Fe wnaeth eu cam o gipio'r brifddinas ysgogi Saudi Arabia i ymyrryd mewn ymgais i adfer y llywodraeth oedd yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol, sydd â mwyafrif Sunni.

Lansiwyd ymgyrch fomio Saudi ac Emiradau Arabaidd Unedig yn erbyn targedau Houthi yn 2015 gan arwain at feirniadaeth o achos marwolaethau sifiliaid, gan arwain at alwadau i’r DU roi’r gorau i allforio arfau i Saudi Arabia.

Yn y cyfamser, mae Tehran wedi’i gyhuddo o ddarparu arfau, hyfforddiant a chymorth ariannol i’r Houthis.

Mae'r rhyfel wedi cael ei weld fel symptom o'r gwrthdaro ehangach rhwng Iran a Saudi Arabia wrth i'r ddwy wlad geisio sicrhau mwy o ddylanwad ar draws y Dwyrain Canol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.