Teyrnged i ddyn 'anhygoel' fu farw mewn gwrthdrawiad ger Wrecsam
Mae teulu dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ger Wrecsam yr wythnos diwethaf wedi rhoi teyrnged iddo.
Roedd Peter Footitt yn 61 oed ac yn byw yn Alltmelyd, ym Mhrestatyn.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: "Roedd yn dad cariadus i Emma, Sara a Rosie, ac yn fab, brawd, ewythr a ffrind anhygoel ac fe fydd pawb yn gweld ei eisiau.
"Fydd Dad fyth yn cael ei anghofio, a byddwn yn sicrhau ei fod yn byw am byth gyda ni.
"Hoffai'r teulu ddiolch i bawb am eu geiriau caredig a'u cefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn."
'Cyfnod anodd'
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i apelio am dystion i'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd ychydig cyn 01:20 ar 19 Ionawr ar yr A483 ger Wrecsam.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng cerbyd glas Ford Transit Connect a cherbyd nwyddau trwm a oedd wedi parcio mewn man cyfagos.
Fe wnaeth y gwasanaethau brys deithio i'r fan a'r lle, ond bu farw gyrrwr y cerbyd glas yn y fan a'r lle.
Dywedodd Sarjant Alun Jones o Uned Troseddau'r Ffyrdd: "Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu a ffrindiau Mr Footitt yn ystod y cyfnod hynod o anodd hwn."
Mae'r llu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 24000086732.