Newyddion S4C

‘Trychinebus’ i roi pwerau cyfiawnder i Gymru

Syr Robert Buckland

Byddai datganoli pwerau cyfiawnder i Gymru yn “gamsyniad trychinebus” yn ôl y cyn-ysgrifennydd Cyfiawnder Syr Robert Buckland.

Dywedodd y bargyfreithiwr, sy’n enedigol o Lanelli, wrth y BBC fod bod yn rhan o awdurdod cyfiawnder Cymru a Lloegr yn beth da.

Roedd yn ymateb i argymhellion comisiwn i Gymru gymryd rheolaeth oddi wrth San Steffan cyn gynted â phosib.

Mae’r adroddiad wedi ei chyflwyno i lywodraeth Cymru i’w ystyried.

Mae’n nodi y dylai rheolaeth dros reilffyrdd, heddlu a chyfiawnder gael eu trosglwyddo ond yn ôl Syr Robert, wnaeth ymarfer y gyfraith yng Nghymru, byddai hyn yn gamgymeriad.

Dywedodd: “Byddai hyn yn gam trychinebus dros gyfiawnder yng Nghymru.

“Rydym yn rhan o awdurdodaeth Cymru a Lloegr, un o’r rhai mwyaf â pharch yn y byd.

“Mae ein henw da am y gyfraith, annibyniaeth ein barnwyr â’n proffesiwn cyfreithiol hefyd yn golygu fod bod yn rhan o endid mwy yn dda i Gymru.

“Mae’n dda i’r gyfraith yng Nghymru a dwi’n credu ei fod yn hanfodol ein bod yn aros fel un awdurdodaeth.

“Rwy’n gwrthod yn llwyr y syniad, rhywsut byddwn yn well gydag awdurdodaeth ar wahân i Gymru.”

Mae’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru wedi bod yn ystyried dros y ddwy flynedd ddiwethaf ers ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru.

Opsiynau

Wedi dod i'r casgliad nad ydy'r sefyllfa fel ag y mae yn gynaliadwy, mae'r panel yn dweud bod yna dri opsiwn posib.

Yr opsiwn cyntaf yw atgyfnerthu'r sefyllfa bresennol drwy ddiweddaru grymoedd y Senedd a gwaredu cyfyngiadau diangen.

Dyna'r ateb rhwyddaf yn ôl y Comisiwn. Ond mae risg y byddai perfformiad economaidd gwael incymau isel a thlodi yn parhau yng Nghymru.

Yr ail opsiwn ydy creu strwythur ffederal ar gyfer y Deyrnas Unedig ble byddai pob cenedl yn cael ei thrin yn gyfartal.

Mae'r opsiwn yma'n cynnig ffordd ganol yn ôl y Comisiwn ond byddai angen cefnogaeth rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig hefyd. Ar hyn o bryd, dydy hynny ddim yno.

Y trydydd ateb ydy annibyniaeth. Dyna'r opsiwn mwyaf ansicr o bell ffordd yn ôl y Comisiwn.

Mae'r Comisiwn gafodd ei gadeirio gan gyn-Archesgob Caergaint Dr Rowan Williams a'r Athro Laura McAllister o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn rhybuddio byddai Cymru annibynnol yn wynebu her ariannol a dewisiadau anodd yn y tymor byr i ganolig ond mae e hefyd yn dweud y gallai Cymru annibynnol lwyddo.

Ychwanegodd Syr Robert: “Nid yw annibyniaeth yn ymarferol.

Edrychwch ar yr hyn sy’n cael ei ddweud am galedi dros y tymor byr a chanolig.

“Ydyn ni wir eisiau 50 mlynedd o ddiboblogi, economi sy’n llonydd a gwlad fydd yn mynd yn ôl ac nid ymlaen.

“Mae annibyniaeth i Gymru yn golygu tlodi i Gymru, nid llwyddiant.”

Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi dweud fod yr adroddiad yn “ddarn o waith sy’n haeddu ystyriaeth ddwys.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth fod “annibyniaeth yn opsiwn dilys.

Mae arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru Jayne Dodds wedi croesawu’r adroddiad am archwilio “ffyrdd pragmatig” i ddiwygio perthynas Cymru gyda gweddill y DU.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.