'Amodau teithio anodd' i deithwyr wrth i rannau o Gymru weld eira a rhew
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gall teithwyr wynebu 'amodau teithio anodd' fore Iau yn sgil eira a rhew mewn rhannau o Gymru.
Mae rhybudd melyn am eira a rhew mewn grym i rannau o Gymru ers 22:00 nos Fercher gan barhau tan 11:00 fore Iau.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai eira achosi trafferthion ar rai ffyrdd am gyfnodau.
Maen nhw hefyd wedi rhybuddio y gallai rhai gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau gael eu gohirio oherwydd y tywydd.
Mae disgwyl i’r eira ac eirlaw ymledu tua'r de-ddwyrain yn ddiweddarach ddydd Mercher.
Ychwanegodd y swyddfa y gallai ardaloedd yng ngorllewin a gogledd Cymru weld 2-5cm o eira yn disgyn.
Fe fydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
Ynys Môn
Gwynedd
Conwy
Wrecsam
Sir Ddinbych
Sir y Fflint
Powys
Sir Gaerfyrddin
Ceredigion
Sir Benfro
Abertawe