Rhybudd melyn am eira a rhew mewn grym i rannau o Gymru
Mae rhybudd melyn am eira a rhew mewn grym i rannau o Gymru ddydd Mawrth, gan barhau am dridiau.
Fe fydd y rhybudd yn parhau mewn grym tan ddydd Iau.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, fe allai rhai ffyrdd gael eu heffeithio gan eira am gyfnodau.
Maen nhw hefyd wedi rhybuddio fe allai rhai gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau gael eu gohirio oherwydd y tywydd.
“Bydd cawodydd eira yn symud ar draws rhannau o orllewin Cymru ar ddechrau’r diwrnod,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd.
“Wrth i’r gwynt newid i gyfeiriad y gogledd-orllewin bydd y rhain yn effeithio fwyfwy ar rannau o ogledd Cymru, gogledd orllewin Lloegr, ac efallai yn cyrraedd rhannau o ogledd orllewin canolbarth Lloegr yn ddiweddarach yn y dydd.
“Bydd llawer o leoedd yn yr ardaloedd hyn ond yn gweld tua 1-2 cm o eira, a fydd yn toddi’n gyflym ar yr arfordiroedd.
“Fodd bynnag gallai rhai ardaloedd weld 5-10 cm o eira.”
Mae'r rhybudd melyn yn berthnasol i:
- Ceredigion
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Gwynedd
- Powys
- Wrecsam
- Ynys Môn
- Sir Gaerfyrddin
- Sir Benfro
Inline Tweet: https://twitter.com/ErwynJ/status/1747135071079870918?s=20
'Paratoi'
Mae disgwyl eira ysgafn yn ardaloedd Blaenau Ffestiniog, Bala, Rhuthun, Llanelwy a Wrecsam ddydd Mawrth, gyda disgwyl iddi gymylu ac i lawio yn y prynhawn a nos Fawrth.
Fe fydd rhai ardaloedd gwledig y DU yn gweld llawer o rew a thymheredd mor isel â -10C yr wythnos hon.
Dywed y Swyddfa Dywydd mai gwyntoedd o'r Arctig sy'n gyfrifol am ddod â'r tywydd oer.
Mae Dr Agostinho Sousa, Pennaeth Digwyddiadau Eithafol a Diogelu Iechyd yn Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU yn rhybuddio y gall y tywydd oer gael effaith ddifrifol ar iechyd rhai pobl fregus a'r henoed.
"Mae hyn gan ei fod yn cynyddu'r risg o drawiadau ar y galon, strôc a heintiau ar y frest. Mae’n hanfodol felly sicrhau bod eich ffrindiau, teulu a chymdogion wedi’u paratoi’n dda ar gyfer y tywydd oer yr wythnos nesaf," meddai.