Newyddion S4C

'Erfyn' ar berchnogion XL Bully i wneud cais am dystysgrif i gael cadw eu cŵn

15/01/2024
Ci XL Bully

Mae'r RSPCA wedi "erfyn" ar berchnogion XL Bully i wneud cais i eithrio eu cŵn o dan y gyfraith newydd a fydd yn dod i rym mewn pythefnos yn unig.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd yn drosedd i fod yn berchen ar XL Bully o 1 Chwefror oni bai bod gan berchnogion yng Nghymru a Lloegr ffurflen sy'n eu heithrio.

Mae Llywodraeth y DU wedi gosod terfyn amser o hanner dydd ar 31 Ionawr ar gyfer ceisiadau ar-lein.

Fe fydd yn anghyfreithlon i fod yn berchen ar gŵn XL Bully sydd heb gael eu heithrio erbyn y dyddiad yma.

Mae modd i berchnogion ymgeisio am eithriad ar wefan Llywodraeth y DU, ac mae ffi o £92.40 ar gyfer pob ci yn ogystal â chael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus trydydd parti. 

Fel rhan o'r broses eithrio, fe fydd yn rhaid i berchnogion hefyd sicrhau fod y ci wedi ei ysbaddu a'i gadw ar dennyn a gwisgo mwsel dros eu cegau pan mewn man cyhoeddus ymysg gofynion eraill. 

'Heriau'

Os ydy'r ci yn iau na blwydd oed ar 31 Ionawr 2024, rhaid iddo gael ei ysbaddu erbyn 31 Rhagfyr y flwyddyn nesaf. Os yw'r ci yn hŷn na blwydd oed ar 31 Ionawr 2024, rhaid iddo gael ei ysbaddu erbyn 30 Mehefin.

Dywedodd arbenigwr lles cŵn yr RSPCA Dr Samantha Gaines: "Er bod rhan gyntaf y gwaharddiad wedi dod i rym ar 31 Rhagfyr 2023 sy'n cynnwys y gofyniad i gadw eu ci ar dennyn mewn man cyhoeddus, mae gan berchnogion tan hanner dydd ar 31 Ionawr i ymgeisio am eithriad a fyddai'n eu galluogi i gadw eu ci yn gyfreithlon fel eu bod nhw gyd yn ddiogel. 

"Rydym yn erfyn ar berchnogion XL Bully i gychwyn y broses eithrio rwan a pheidio gadael pethau yn rhy hwyr. 

"Er bod yna heriau cyfreithiol parhaus, dydyn ni ddim yn gwybod pryd y bydd rhain yn digwydd na beth fydd y canlyniad. Ond o 1 Chwefror, fe fydd yn rhaid i berchnogion XL Bully gael tystysgrif eithrio i'w cadw nhw yn gyfreithlon."

Mae'r RSPCA yn rhan o'r Glymblaid Rheoli Cŵn sydd ddim yn cytuno ar wahardd y brîd XL Bully. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.