Newyddion S4C

Llosgfynydd yn ffrwydro eto ger tref yng Ngwlad yr Iâ

14/01/2024
Llosgfynydd

Mae llosgfynydd wedi ailddechrau ffrwydro ar benrhyn Reykjanes yn ne-orllewin Gwlad yr Iâ. 

Daw ar ôl wythnosau o ddaeargrynfeydd dwys yn yr ardal, a mis ers iddo ffrwydro'r tro diwethaf.

Mae'r mynydd tua 4km i’r gogledd-ddwyrain o dref Grindavik.

Roedd amddiffynfeydd wedi eu hadeiladu i geisio diogelu'r dref ers y digwyddiad diwethaf, ond mae'n ymddangos nad yw rhain wedi gweithio i atal llif y magma.

Dywedodd Swyddfa Meteorolegol Gwlad yr Iâ mewn datganiad ddydd Sul: “Dechreuodd ffrwydrad i’r gogledd o Grindavík, i’r de-ddwyrain o Hagafell, am 07:57 y bore yma. 

"Dechreuodd y ffrwydrad i'r gogledd o wal amddiffyn a oedd wedi dechrau cael ei hadeiladu i'r gogledd o Grindavík. 

"Agorodd hollt newydd i'r gogledd o ymyl y dref tua 12:10 ac mae lafa wedi cyrraedd y dref."

Mae'r heddlu wedi rhybuddio i bobl i gadw draw o ardal y ffrwydrad.


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.