Newyddion S4C

Pump wedi marw wrth geisio croesi'r Sianel o Ffrainc

14/01/2024
Calais PA

Mae pum person oedd yn ceisio croesi’r Sianel i Loegr wedi marw meddai swyddogion yn Ffrainc.

Roedd tua 70 o bobl yn ceisio mynd i mewn i gwch pan aeth i drafferthion yn ystod oriau mân fore dydd Sul.

Cafodd dwsinau eu tynnu o’r dŵr yn ystod ymdrechion achub dros nos yn Wimereux, i’r de o Calais.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor David Cameron bod y marwolaethau yn “dorcalonnus”.

Dywed awdurdodau lleol fod pedwar o'r meirw yn dod o Irac a Syria.

Mae un person sydd mewn cyflwr difrifol wedi’i drosglwyddo i ysbyty yn Boulogne-sur-Mer, meddai llefarydd ar ran Swyddfa Forwrol Ffrainc.

Dywedodd hefyd fod 32 o bobl wedi cael eu hachub a bod gan un person anafiadau.

Parhaodd ymdrechion achub tan tua 05:00, gyda nifer o gychod a hofrennydd Llynges Ffrainc yn chwilio am y rhai oedd wedi mynd i drafferthion.

Llun: PA Media

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.