Newyddion S4C

Protestiadau o blaid Palesteina'n cael eu cynnal mewn nifer o ddinasoedd

13/01/2024
Protest PA

Mae protestwyr o blaid Palesteina wedi bod yn gorymdeithio mewn nifer o ddinasoedd ddydd Sadwrn, gan gynnwys Caerdydd.

Mae'r gorymdeithiau'n rhan o ddiwrnod byd-eang o weithredu mewn 30 o wledydd.

Mae cannoedd o blismyn ar ddyletswydd yn Llundain, gyda phrotestwyr yn cael eu rhybuddio eu bod nhw’n wynebu cael eu harestio os ydyn nhw’n “gwthio’r terfyn yn fwriadol” ar arwyddion protest a sloganau.

Daw’r protestiadau ar ôl i’r DU a’r UDA gynnal cyrchoedd awyr yn erbyn canolfannau milwrol Houthi yn Yemen.

Mae’r grŵp sy'n derbyn cefnogaeth gan Iran wedi targedu llongau masnachol dro ar ôl tro yn y Môr Coch yn sgil rhyfel Israel yn erbyn Hamas yn Gaza.

Fe fydd “presenoldeb plismona sylweddol” i’w weld mewn dinasoedd ar hyd a lled y DU ddydd Sadwrn, hwn gyda thua 1,700 o swyddogion ar ddyletswydd i blismona’r orymdaith yn Llundain, gan gynnwys nifer o luoedd cyfagos, meddai Heddlu'r Met.

Mae nifer o amodau yn eu lle, meddai'r heddlu, gan gynnwys neb i wyro oddi wrth y llwybr swyddogol; rhaid i'r areithiau yn y gwasanaeth yn dilyn yr orymdaith ddod i ben erbyn 16:30, a rhaid i'r digwyddiad cyfan ddod i ben erbyn 17:00.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.