Lluniau newydd yn dangos 'gwir liw' planedau Neifion ac Wranws
Mae lluniau newydd yn dangos sut mae'r planedau pellaf yng nghysawd yr haul – Neifion ac Wranws - yn edrych.
Mae lluniau eisoes wedi dangos bod Neifion yn lliw glas, ac Wranws yn fwy gwyrdd.
Ond mae astudiaeth newydd wedi datgelu bod y ddwy blaned mewn gwirionedd yn llawer tebycach i'w gilydd o ran lliw.
Mae'r Athro Patrick Irwin o Brifysgol Rhydychen a’i dîm wedi darganfod fod y ddwy blaned yn debyg i liw gwyrddlas.
Mae arbenigwyr yn awgrymu bod y syniad bod y ddwy blaned yn wahanol liwiau wedi codi oherwydd bod delweddau ohonyn nhw yn yr 20fed ganrif - gan gynnwys trwy genhadaeth Voyager 2 NASA, yr unig long ofod i hedfan heibio'r bydoedd hyn - wedi recordio delweddau mewn lliwiau gwahanol.
'Colli dros amser'
Cafodd delweddau cynnar o Neifion gan Voyager 2 eu gwella er mwyn datgelu'n well y cymylau, y bandiau a'r gwyntoedd, meddai gwyddonwyr.
Dywedodd yr Athro Irwin bod y gwahaniaeth lliw rhwng y planedau wedu cael eu colli dros amser.
“Er i ddelweddau cyfarwydd Voyager 2 o Wranws gael eu cyhoeddi ar ffurf sy’n agosach at ‘wir’ liw, roedd y rhai o Neifion, mewn gwirionedd, wedi’u hymestyn a’u gwella, ac felly wedi’u gwneud yn artiffisial yn rhy las," meddai..
“Er bod y lliw dirlawn artiffisial yn hysbys ar y pryd ymhlith gwyddonwyr planedol - a rhyddhawyd y delweddau gyda chapsiynau yn ei esbonio - roedd y gwahaniaeth hwnnw wedi mynd ar goll dros amser.”
“Gan gymhwyso ein model i’r data gwreiddiol, rydym wedi gallu ailgyfansoddi’r cynrychioliad mwyaf cywir eto o liw Neifion ac Wranws.”
Prif lun: PA