368 o ddisgyblion Sir Conwy i hunan-ynysu

Ysgol Eirias, Bae Colwyn
Mae 368 o ddisgyblion yn Sir Conwy wedi derbyn cyngor i hunan-ynysu.
Daw hyn ar ôl i glwstwr o achosion o Covid-19 ymddangos yn y sir, gan gynnwys yn Llandudno, Cyffordd Llandudno a Bae Penrhyn.
Yn ôl North Wales Live, mae Cyngor Sir Conwy wedi cynghori disgyblion o Ysgol Eirias, Ysgol Aberconwy, Ysgol Pen y Bryn, Ysgol Craig y Don ac Ysgol Deganwy i hunan-ynysu.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Google