Undeb Rygbi Cymru yn addo newid ar ôl ‘blwyddyn heriol’
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi addo newid ar ddechrau 2024 ar ôl dweud fod 2023 wedi bod yn “flwyddyn heriol’ i rygbi yng Nghymru.
Mewn llythyr at glybiau Cymru dywedodd Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Richard Collier-Keywood, bod angen timau domestig cryf ar y gamp yng Nghymru er mwyn “cystadlu gyda’r goreuon yn y byd”.
Dywedodd y byddai'r undeb yn “dysgu gwersi pwysig o’r hyn sydd wedi digwydd” yn 2023 “ac yn sicrhau nad yr elfennau negyddol hyn fydd yn ein diffinio”.
Daw ei sylwadau wedi i raglen BBC Cymru Wales Investigates ym mis Ionawr 2023 adrodd ar honiadau o agweddau rhywiaethol a misogynistaidd yn yr undeb.
Ymddiswyddodd y prif weithredwr Steve Phillips a chomisiynodd URC ymchwiliad annibynnol a wnaeth ddarganfod fod agweddau o’r sefydliad yn hiliol, rhywiaethol, misogynistaidd a homoffobig.
“Mae’n rhaid i ni groesawu pawb i’n gêm ac mae’n rhaid i ni gyd ystyried pam nad yw rhai pobl yn dod atom ar hyn o bryd o bosib,” meddai Richard Collier-Keywood yn ei lythyr.
“Oes croeso cynnes a diogel yn cael ei gynnig gennym – yn enwedig felly i ferched a menywod? Mae angen iddynt dderbyn croeso a thriniaeth gyfartal yn ein clybiau ac ar ein caeau chwarae hefyd.”
‘Conglfaen’
Dywedodd fod ganddo gynllun chwe phwynt er mwyn mynd i’r afael â’r problemau o fewn Undeb Rygbi Cymru.
- Gweithredu egwyddorion ‘Cymru’n Un’ – sy’n golygu bod pob elfen o’r gêm yn cydweithio gyda’i gilydd.
- Creu strategaeth i gryfhau cefnogaeth yr Undeb i Rygbi Cymru - gan greu mwy o arian i gefnogi’r gêm broffesiynol a chymunedol.
- Meithrin a hyrwyddo diwylliant cynhwysol.
- Cwblhau strategaeth ar gyfer y merched a’r menywod a sicrhau’r buddsoddiad ariannol angenrheidiol.
- Buddsoddi yn llesiant y chwaraewyr.
- Sicrhau gwelliannau pellach i’n llywodraethiant.
“Gallaf ddatgan yn gyhoeddus fy mod yn cymryd diddordeb personol sylweddol yn y cydweithio sy’n digwydd rhwng yr Undeb a’r rhanbarthau – gan bo’r gêm ranbarthol yn un o gonglfeini llwyddiant Rygbi Cymru yn y dyfodol,” meddai.