Newyddion S4C

Blas o Affrica ym Mangor: Rhannu bwyd a chymorth gyda chymuned Affricanaidd yr ardal

29/12/2023

Blas o Affrica ym Mangor: Rhannu bwyd a chymorth gyda chymuned Affricanaidd yr ardal

Mae grŵp cymunedol ym Mangor yn cynnig blas o gartref i deuluoedd a myfyrwyr sydd wedi teithio miloedd o filltiroedd o Affrica i ymgartrefu yng ngogledd Cymru.

Mae Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru yn gymdeithas sydd yn cynnwys bron i 500 o aelodau, y mwyafrif helaeth yn hannu o wledydd Affrica a’r Caribî.

Mae’r grŵp yn cynnig cymorth i bobl sydd yn symud i’r ardal – o gyngor i edrych am dai, chwilio am swyddi, neu gynnig cyfle i gwrdd â phobl mewn amryw o ddigwyddiadau.

Image
Fatima, Faheedat a Tinuade
Fatima, Faheedat a Tinuade

Ond yn ôl cyfarwyddwr y grŵp, Samuel Njoku, y prosiect sydd yn denu’r mwyaf o ddiddordeb yw’r gwasanaeth sydd yn dosbarthu pecynnau bwyd ‘diwylliannol addas’ yn fisol.

O bupurau scotch bonet, plantain, yam ac okra, mae gwirfoddolwyr y grŵp yn teithio i Fanceinion mewn fan er mwyn prynu cynhwysion sydd yn anodd eu cael yng Ngogledd Cymru ac sydd yn ddrud, gan eu bod wedi eu mewnforio.

'Fel bod adref eto'

“Mae’n rhoi gwên ar wynebau pobl,” meddai Mr Njoku, sydd yn dad i bedwar o blant ac yn uwch-ffisiotherapydd yn Ysbyty Gwynedd.

“Mae bron fel gweld bara brith Cymreig ar y bwrdd swper, y tu allan i Gymru. Mae am gariad, i gael y bwydydd sydd yn gynhenid i chi. Fel arfer mae'n rhaid mynd i Fanceinion, Lerpwl neu ddinasoedd eraill i’w prynu nhw. 

“Mi rydyn ni’n gallu fforddio’r bwydydd yma, ond maen nhw’n dair-gwaith y gost os ydych chi’n prynu nhw’n unigol. Felly, mae cael nhw am ddim drwy’r Gymdeithas yn ddatblygiad da. 

“Ar ôl gadael adref, tydi pobl ddim yn disgwyl rhywbeth fel hyn, felly pan ti’n gallu cynnig hynny iddyn nhw, mae o fel breuddwyd yn dod yn wir – mae fel bod adref eto.”

Pob mis, mae rhwng 40 a 50 o unigolion a theuluoedd yn ymgynnull yng nghanolfan Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru ar Stryd Fawr Bangor, er mwyn derbyn y trysorau hyn. 

Yn eu plith mae tair aelod o’r grŵp sydd yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor, Fatima Idris, Faheedat Bakare a Tinuade Adeshina.

“Mae’n bwysig iawn. Mae’n braf  gallu bwyta bwyd o’ch cartref eich hunain, heb orfod mynd i chwilota amdano,” meddai Faheedat.

“Mae’n adeg anodd o’r flwyddyn i fyfyrwyr, felly pan mae problemau gydag arian, mae’n rhywbeth i fod yn hapus iawn amdano pan rydych yn cael bwyd fel hyn am ddim,” ychwanegodd Tinuade.

Edrych ar ôl eu cymuned yw prif nod y grŵp a thu hwnt i’r pecynnau bwyd, maen nhw’n gwneud hynny mewn sawl ffordd.

Mae prosiect Jamii2 yn derbyn arian gan Gronfa Gymuned y Loteri, ac yn hybu gwella iechyd a lles aelodau. Fel rhan o’r cynllun, mae aelodau wedi derbyn beiciau i’w defnyddio fel ffordd o deithio o gwmpas y ddinas. Maen nhw hefyd wedi cynnal dosbarthiadau ioga a dawnsio yn ogystal â sesiynau iechyd meddwl.

I blant, mae’r grŵp yn cynnal gweithgareddau rheolaidd yn ystod gwyliau ysgol, gan gynnwys tasgau celfyddydol a sesiynau pêl-droed a phêl-foli.

‘Rhannu popeth gyda’n gilydd’

Ond y cyfle i gymdeithasu a gwneud ffrindiau mewn ardal newydd – i blant ac oedolion – yw blaenoriaeth y grŵp.

Dywedodd Mary Okuwashi, un o reolwyr Canolfan Affricanaidd a Charibïaidd Bangor: “Mae gennym tua 460 o bobl ar ein grŵp Whatsapp, sydd yn rhan weithgar o’n cymuned.  

Image
Mary Okuwashi, un o reolwyr Canolfan Affricanaidd a Charibïaidd Bangor
Mary Okuwashi

“Mae’n helpu chi i beidio teimlo’n unig. Mae gen i ddau o blant sydd wastad adref, does dim byd yn digwydd yn ystod y gwyliau haf hir – beth allwn ni ei wneud i helpu pobl? 

"Felly roedd gynnon ni chwaraeon yma bob dydd Sadwrn drwy’r haf, pêl droed a phêl foli. Roedd o’n rhoi cyfle i bobl gael ymarfer corff a dod i nabod mwy o bobl. 

“Mi ydan ni’n rhannu popeth gyda’n gilydd, gwybodaeth am rywbeth yn ysgol, gwaith, unrhyw beth all helpu rhywun arall.” 

Mae’r grŵp hefyd wedi chwarae rhan ganolog mewn sawl digwyddiad cymunedol, fel carnifal y ddinas â’r pared lanternau a gynhaliwyd ar y Stryd Fawr cyn y Nadolig eleni.

Maen nhw wedi cynnal sawl digwyddiad eu hunain, gan gynnwys ymgyrch glanhau Traeth Llydan yn Rhosneigr a pharti i ddathlu Mis Hanes Bobl Ddu yn Llandudno.

“Wrth i’r niferoedd o bobl Affricanaidd sydd yn symud yma gynyddu, mae ein cyfraniad i’r gymdeithas wedi cynyddu hefyd,” meddai Samuel.

“Ar lefel llywodraethol, rydym wedi cymryd rhan yn ymgynghoriad Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru a grŵp cydraddoldeb craidd Cyngor Gwynedd.

“Felly, yn sicr, mae’r gymuned Affricanaidd yn rhan o dirwedd gogledd Cymru, a rydyn ni'n llais dylanwadol yma bellach.”

‘Lle tawel, hyfryd a heddychlon’

Image
Adebimpe
"Mae fy mab yn siarad Cymraeg ac wrth ei fodd yma," medd Adebimpe Okhueleigbe

Mae Adebimpe Okhueleigbe yn fam i ddau o blant ac yn byw yng Nghaernarfon, tra'n astudio ym Mhrifysgol Bangor.

Dywedodd: “Fe symudais i Gaernarfon yn ystod mis Chwefror a Mawrth, o Nigeria. Oeddwn i’n poeni byswn i’n unig ond ti’n gweld fod yna gymdeithas Affricanaidd yma ac mae hynny’n beth da.

“Mae’r Gymdeithas wedi ei gwneud hi'n haws i ffitio i mewn. 

"Mae’n beth da gwybod fod 'na fforwm lawr gwlad, lle wyt ti’n gallu cwrdd â phobl ti’n gwybod sydd yn dod o fy lle i, rhywun fel finnau. Mae’n gwneud setlo i lawr yn haws.

“Bellach mae fy mhlant yn mynd i Ysgol Santes Helen yng Nghaernarfon. Mae fy mab yn siarad Cymraeg ac wrth ei fodd yma.”

Image
Temitope
“Mae’n le tawel, hyfryd a heddychlon,” meddai Temitope Osimokun

“Mae’n le tawel, hyfryd a heddychlon,” meddai Temitope Osimokun, sydd yn astudio gradd meistr ac yn byw ym Mangor gyda’i dau blentyn, sydd yn mynd i Ysgol Friars.

“Pan ti’n cerdded o gwmpas, mae pobl yn gwenu arnat yma, a dw i’n meddwl fod pobl yma yn gyfeillgar. Mae’n lle da i fagu eich plant. Yn sicr gallwn i weld fy hun a fy nheulu yn aros yma.

“Mae’r gymdeithas wedi cael effaith bositif iawn arnom ni. Rŵan, pan mae person newydd yn cyrraedd Bangor, da chi’n gofyn - ‘ydych chi wedi ymuno â’r gymuned?’ Achos mae’n sicr o wneud gwahaniaeth iddyn nhw.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.