Newyddion S4C

'Parhau â'r traddodiad': Dros 30 mlynedd o bartion Nadolig i ddisgyblion Ysgol Pendalar

23/12/2023

'Parhau â'r traddodiad': Dros 30 mlynedd o bartion Nadolig i ddisgyblion Ysgol Pendalar

Ers dros 30 o flynyddoedd mae disgyblion Ysgol Pendalar yng Nghaernarfon wedi mwynhau mynychu partion Nadolig mewn Ysgol Uwchradd leol. 

A doedd eleni ddim gwahanol, wrth i rai o'r disgyblion sydd ag anghenion arbennig o’r ysgol deithio i Ysgol Brynrefail yn Llanrug i gael gwledd, i ddawnsio, canu a chyfarfod Siôn Corn.

Disgyblion chweched Ysgol Brynrefail sydd yn gyfrifol am gasglu arian i drefnu a chynnal y parti drwy roddion gan gwmnïau a phobl leol. 

Dywedodd Gruff, disgybl Chweched Dosbarth Ysgol Brynrefail: “’Da ni wedi bod yn paratoi ers wythnosau wan ella misoedd, jyst yn hel arian, trio g’neud achlysuron sydd yn hel pres i roi'r profiad gorau i’r disgyblion.” 

Ychwanegodd Gwern, sydd hefyd yn ddisgybl Ysgol Brynrefail: ”Da ni rili isio rhoi parti da iddyn nhw. Da ni’n cynnal gweithgareddau rhoi tamaid i fwyta ac maen nhw’n cael cyfarfod Siôn Corn.”

Image
newyddion
Sion Corn a'i griw yn barod am y parti 

Dau wnaeth fwynhau'r parti oedd Lili, 10 oed a Jac, 11 oed. 

Dywedodd Jac ei fod yn “barti da” a'i fod yn edrych ymlaen at gael anrheg gan Siôn Corn. 

Roedd Lili hefyd yn edrych ymlaen at weld Siôn Corn ac wedi mwynhau “dawnsio a chanu” yn y parti. 

Image
newyddion
Jac a Lili yn y parti

Yn ail yn unig i Siôn Corn ar y rhestr gwesteion oedd Elidyr Glyn o fand Bwncath a wnaeth ganu i’r disgyblion. 

“Mae o yn braf iawn cael gwahoddiad i gymryd rhan yn y parti," meddai.

"Mae o yn syniad da, ac yn rhywbeth sy’n hyfryd i weld, cael pobl ifanc yn dod at ei gilydd i drefnu rwbath sydd yn wasanaeth mor bwysig i blant eraill. 

“Mae o yn ddigwyddiad arbennig iawn. 

“Dwi’n edrych ymlaen at weld Siôn Corn a dwi’n gobeithio y neith o ymuno efo’r canu hefyd, bysa hunan ffantastig."

Image
newyddion
'Pwy sy'n dŵad dros y bryn?' Oedd un o ganeuon fwyaf poblogaidd y parti

Mae’r parti blynyddol yn rhywbeth mae’r ysgol a disgyblion Ysgol Brynrefail yn ymfalchïo ynddo, meddai Elfyn Roberts pennaeth chweched Yr ysgol. 

“Mae’r parti wedi bod yn digwydd ers dros 30 o flynyddoedd a 'da ni’n dal i barhau efo’r traddodiad yna.," meddai.

“Dwi’n meddwl bod o yn hynod o bwysig bod y chweched dosbarth yn cael cyfle i neud gwaith gwirfoddol fel hyn at achos mor dda. Mae’r codi arian cyn y parti yn rhan mawr a'r diwrnod ei hun wrth gwrs a gweld pawb yn cymysgu a chael hwyl- dyna ydi’r uchafbwynt mewn ffordd wedyn.

“Mae o yn gwneud yr holl waith caled o flaen llawn werth o. Dwi’n gwerthfawrogi gwaith caled y chweched ac mae’r parti yn llwyddiant.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.