Cyn Ysgrifennydd Cymru yn rhybuddio am AI ‘deepfake’ cyn Etholiad Cyffredinol
Mae cyn Ysgrifennydd Cymru Robert Buckland wedi rhybuddio am beryglon AI ‘deepfake’ cyn yr Etholiad Cyffredinol.
Mae’r dechnoleg yn caniatáu i rywun wisgo mwgwd digidol a ffugio bod gwleidyddion neu eraill wedi dweud neu wneud pethau nad ydyn nhw ddim.
Galwodd yr Aelod Seneddol sy’n wreiddiol o Lanelli ar i Lywodraeth y DU “ddangos rhywfaint o arweiniad” wrth fynd i’r afael â’r broblem.
“Y peryg ydi ein bod ni’n rhoi’r gorau i ymddiried yn unrhyw beth,” meddai.
“Bydd rhai yn dweud mai sensoriaeth yw ymdrechion i ddelio â ‘deepfakes’. Ond y nod yw amddiffyn sancteiddrwydd y gwirionedd.
“Mae’r dyfodol yma. Mae’n digwydd nawr.”
'Difrifol'
Roedd achos eisoes wedi codi yn ystod Cynhadledd y Blaid Lafur eleni pan gafodd darn o sain ei greu yn awgrymu bod Keir Starmer wedi rhegi ar ei gyd-weithwyr.
Roedd yn ffug ond roedd 1.5m o bobl wedi gwrando arno ar-lein.
Mae Robert Buckland, sydd bellach yn cadeirio Pwyllgor Dethol Gogledd Iwerddon, yn rhan o grŵp o ASau Torïaidd sydd wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwyddoniaeth Michelle Donelan ar y pwnc.
Dywedodd fod angen arweiniad ar gwmnïau cyfryngau cymdeithasol gyda'r nod o atal ymyrraeth mewn etholiadau.
Gallai hynny gynnwys ymyrraeth gan lywodraethau tramor, meddai.
Yr wythnos diwethaf, dywedodd Michelle Donelan fod y llywodraeth yn cymryd bygythiad posib gan ddatblygiad AI yn “ddifrifol iawn”.
“Rwy’n disgwyl erbyn yr etholiad cyffredinol nesaf y bydd gennym brosesau cadarn yn eu lle a fydd yn gallu mynd i’r afael â’r problemau hyn,” meddai wrth y pwyllgor gwyddoniaeth a thechnoleg.