‘Annemocrataidd’: Mark Drakeford ddim am dderbyn sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi
Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud na fydd yn derbyn sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi ar ôl ymddeol am ei fod yn “annemocrataidd”.
Dywedodd Mark Drakeford fod tŷ uchaf Senedd San Steffan yn “anacroniaeth (anachronism) ddemocrataidd” a bod angen ei ailwampio.
Ar hyn o bryd mae 175 o arglwyddi Llafur yn yr Arglwyddi, o’i gymharu â 270 o Geidwadwyr.
Mae cyfle gan Brif Weinidogion y Deyrnas Unedig i enwebu arglwyddi newydd ond dywedodd Mark Drakeford na ddylai ei blaid ofyn iddo fynd yno ar eu rhan.
Pan ofynnwyd i Mark Drakeford gan asiantaeth newyddion PA a fyddai’n derbyn arglwyddiaeth, dywedodd Prif Weinidog Cymru: “Fyddwn i ddim eisiau bod yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi anetholedig.
“Yn syml, dydw i ddim yn credu mai dyna’r ffordd iawn i redeg pethau mewn democratiaeth,” meddai.
Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn cefnogi cynigion cyn-brif weinidog Llafur Gordon Brown i ddisodli Tŷ’r Arglwyddi gyda siambr uwch etholedig.
“Dydw i ddim yn dweud am funud bod yn rhaid [ailwampio Tŷ’r Arglwyddi] ar y diwrnod cyntaf, ond mae yna daith tuag at ddiwygio Tŷ’r Arglwyddi y mae angen i ni gychwyn arni," meddai.
“Mae’r ffaith bod yna arglwyddi etifeddol yn dal i wneud deddfau yn y wlad hon - wel, anacroniaeth ddemocrataidd yw’r disgrifiad mwyaf caredig y gallaf feddwl amdano.”