Newyddion S4C

O frig y siartiau i restr y Grammys: Blwyddyn ‘anhygoel’ y gantores Aleighcia Scott

30/12/2023

O frig y siartiau i restr y Grammys: Blwyddyn ‘anhygoel’ y gantores Aleighcia Scott

O ddringo i frig y siartiau reggae i gyrraedd rhestr hir gwobrau’r Grammys, mae 2023 wedi bod yn flwyddyn i’w chofio i’r gantores o Rymni, Aleighcia Scott.

Tridiau ar ôl iddi ryddhau ei halbwm chyntaf, ‘Windrush Baby’, ar 1 Medi, fe lwyddodd Aleighcia i gyrraedd brig siartiau albwm reggae iTunes.

Ychydig wythnosau yn ddiweddarach, fe gafodd yr albwm ei gyhoeddi ar restr hir Albwm Reggae y Flwyddyn yng Ngwobrau’r Grammys.

Fe gymerodd chwe blynedd i gyfansoddi a recordio ‘Windrush Baby’, sydd yn deyrnged i’r genhedlaeth Windrush, y bobl a fudodd o ynysoedd y Caribî i’r Deyrnas Unedig yn ystod y ganrif ddiwethaf. 

Roedd hynny yn cynnwys mam-gu a thad-cu Aleighcia Scott, a ddaeth o Jamaica i ganfod cartref newydd yng Nghaerdydd.

“Dw i’n falch iawn o’r albwm achos mae’n bwysig iawn i fi releasio albwm 100% authentic reggae,” meddai Aleighcia. 

“Mae’r enw, Windrush Baby,  yn bwysig iawn i fi achos dyna yw o ble dwi wedi dod, ac mae’n bwysig iawn i ddathlu hynny.

“Mae’n bwysig iawn i fi i ddweud am fy nghefndir a fy nheulu achos falle dyw pobl ddim yn gwybod am Gymru a’r Caribbean, pobl yn byw yn Cymru a Caerdydd, neu Newport, Port Talbot, y gogledd. Mae’n bwysig i fi i ddweud y stori gyda’r music, achos dwi moyn i bobl gwybod y stori.

“Dwi yn falch iawn o lle mae e wedi cyrraedd hefyd – mae e wedi cyrraedd lot o wahanol gwledydd.

“Roedd fy albwm hefyd yn considered am Grammy ac i fi mae’n massive. 

"Nes i ddechrau music yn y youth club, ac wedyn nesi ddechrau caru canu. I  project sy’n golygu gymaint i fi gael ei considero am Grammy - mae’n absolutely nuts. I fod gyda’r enwau sydd yna, rhai o’r biggest names yn reggae, i fi mae hynny’n massive.

“Dwi’n credu mai fi yw’r reggae artist cyntaf ever o Gymru i considered yn y best reggae album category, which is wild. Ond, dwi’n gobeithio nawr bydd mwy o artists o Gaerdydd a Cymru yn gallu dilyn y ffordd hefyd.” 

'Mwynhau dysgu Cymraeg'

Bydd Aleighcia yn gyfarwydd i lawer fel cyflwynydd ar orsafoedd BBC Radio Wales a BBC Radio 1Xtra, yn ogystal ag ymddangos fel un o’r sêr yng nghyfres Iaith ar Daith ar S4C eleni. Ers hynny mae hi wedi parhau i roi ei hamser i ddysgu Cymraeg, ac yn mynd o nerth i nerth.

“Fi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers biti blwyddyn a hanner. Dwi’n trio dysgu mwy, dwi’n ymarfer bob dydd mewn gyda pobl yn y swyddfa, a bach o teulu fi sydd yn siarad Cymraeg, so fi’n ymarfer gyda nhw. 

"Dwi moyn cyflwyno mwy yn y Gymraeg blwyddyn nesaf, a just gwybod mwy o geiriau.

“Mae’n dipyn bach yn anodd, ond dwi’n mwynhau dysgu Cymraeg ac ymarfer, a gwybod pethau newydd. 

"Mae’n bwysig i fi siarad Cymraeg achos dwi moyn i bobl pwy yn edrych fel fi i wybod ‘gallai siarad Cymraeg hefyd’. So lot o reasons ond mae’n hwyl.”

Edrych ymlaen

Yn dilyn ei llwyddiant dros y 12 mis diwethaf, mae 2024 eisoes yn edrych fel un cyffrous i Aleighcia, wedi iddi gyhoeddi ei bod yn mynd ar daith yn y DU i hyrwyddo ei halbwm, yn ogystal â pherfformio yng ngŵyl fyd-enwog SXSW (South by South-West) yn America.

“Mae gen i lot o plans i berfformio blwyddyn nesa. Mae’r tour yn Mawrth ac wedyn tour mewn i’r haf, festivals a pethau, a bach o America hefyd, ond gweithio mas y plans gyda hwnna. Dwi’n gyffrous yn barod,” meddai.

“Mae gen i bach o gerddoriaeth i blwyddyn nesaf yn barod, cwpwl o singles a dwi’n mynd i ddechrau project arall yn fuan. 

"Felly sgwennu mwy, canu mwy, perfformio mwy, radio mwy, Cymraeg mwy. Dwi’n meddwl blwyddyn nesaf, mae’n edrych yn fwy na blwyddyn yma yn barod, sydd yn wild.

“Dwi just eisiau gwneud y gwaith a gweld dwi’n mynd gyda hynny. Dwi ddim yn meddwl  - 'mae hyn am ddigwydd'.

“Fi just yn gwneud beth fi’n caru gwneud, mwynhau gwneud e, gweithio’n galed a gweld sut bydd hynny yn mynd.

"Felly yn y blynyddoedd nesaf, mae 'na gwpwl o bethau hoffwn i wneud ond just gadael e i Dduw, rhoi’r gwaith caled i mewn a beth bynnag sydd yn digwydd o fan ‘na sydd yn fod i ddigwydd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.