Y dafarnwraig adnabyddus, Bessie Davies wedi marw yn 93 oed
Y dafarnwraig adnabyddus, Bessie Davies wedi marw yn 93 oed
Bu farw un o dafarnwyr mwyaf enwog Cymru Bessie Davies yn 93 oed ddydd Sadwrn.
Roedd hi’n adnabyddus am redeg tafarn y Dyffryn Arms yng Nghwn Gwaun yn Sir Benfro am 72 o flynyddoedd.
Roedd y dafarn yn cael ei hadnabod fel ‘Tafarn Bessie’.
Fe ddechreuodd yn 1950 wrth helpu ei mam-yng nghyfraith Mary Howells cyn cymryd drosodd yn 1972.
Mae wedi cael help ei phlant yn ystod y ddegawd ddiwethaf i redeg y dafarn oedd yn enwog am weini cwrw yn syth allan o’r gasgen a thrwy orddrws yn ei hystafell flaen.
Fe dderbyniodd nifer o ymwelwyr enwog gan gynnwys y Brenin Charles.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Sadwrn dywedodd ei hwyres: “Fel teulu hoffwn eich hysbysu fod Bessie wedi huno’n dawel y bore ‘ma.
"Byddwn yn gwerthfawrogi preifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd yma. Fe fyddwn ar gau tan ddydd Llun. Diolch.”
Roedd yr aelod o Senedd Cymru dros etholaeth Preseli Penfro Paul Davies ymysg yr rheini i roi teyrnged iddi.
"Diwrnod trist iawn," meddai.
"Mae fy ngweddiau gyda’r teulu yn ystod amser anodd iawn."
Inline Tweet: https://twitter.com/tudurdylanjones/status/1736457058554159372?s=20
Roedd Tafarn Bessie yn enwog am ddathlu'r flwyddyn newydd ar Hen Galan, hen draddodiad y calendr Iwlaidd a ddethlir yng Nghwm Gwaun ar Ionawr 13eg.
Fe ddioddefodd y dafarn dân a achosodd ddifrod sylweddol yn 2019 cyn ail agor yn ddiweddarach yr un flwyddyn.
Roedd y paentiwr olew Don Lodge yn ymweld â'r Dyffryn Arms yn flynyddol nes methu gwneud hynny oherwydd clo mawr Covid.
Y flwyddyn honno fe wnaeth o greu delwedd o Bessie Davies a'i yrru i'r dafarn lle y cafodd ei hongian ar y wal.
"Roedd yn ffrind mawr i'r pentrefwyr ac ymwelwyr," meddai.
"Fe gefais i wybod fod Bessie yn caru'r llun.
"Rydw i mor falch o fod yn gysylltiedig â'r gymuned wych hon mewn ffordd barhaol. Mae ei bywyd a'i phentref wedi golygu llawer i mi."