Newyddion S4C

Y Farnwnes Jenny Randerson wedi marw yn 76 oed

Y Farnwnes Jenny Randerson wedi marw yn 76 oed

Mae cyn aelod y Cynulliad dros Ganol Caerdydd, y Farnwnes Jenny Randerson wedi marw yn 76 oed. 

Cynrychiolodd y Democratiaid Rhyddfrydol ym Mae Caerdydd o'r cyfnod pan gafodd y Cynulliad ei sefydlu yn 1999 hyd 2011. 

A bu'n Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a'r Gymraeg o 2000 i 2003.

Wedi 2011, ymunodd â Thŷ'r Arglwyddi. 

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds AS:"Rwyf y tu hwnt o drist i glywed y newyddion am farwolaeth Jenny Randerson

“Rhoddodd Jenny ei bywyd i wasanaethu pobl Caerdydd a Chymru. O fynediad am ddim i amgueddfeydd cenedlaethol Cymru, i'r penderfyniad i adeiladu Canolfan Mileniwm Cymru, mae ei gwaith fel gweinidog wedi gadael ei farc ar ein gwleidyddiaeth a'n cymdeithas.   

“Bydd ei theulu, ei ffrindiau, ei chydweithwyr a'r unigolion a ddaeth i'w hadnabod drwy ei gwasanaeth cyhoeddus yn ei cholli yn fawr iawn.”

Dechreuodd Jenny Randerson ei gyrfa fel athrawes uwchradd ac yna fel darlithydd yng Ngholeg Glan Hafren yng Nghaerdydd. 

Bu'n gynghorydd yn y brifddinas o 1983 i 2000, ac roedd yn Ynad Heddwch rhwng 1982 ac 1999. 

Ymunodd â'r Cynulliad newydd yn 1999, a hi oedd y gweinidog benywaidd cyntaf ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yn sgil ei phenodiad yn Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a'r Gymraeg o 2000 i 2003.

Roedd hi'n Ddirpwy Brif Weinidog Cymru dros dro, rhwng Gorffennaf 2001 a Mehefin 2002. Ac roedd hi ymhlith y gwleidyddion a luniodd strategaeth  "Iaith Pawb," er  mwyn ceisio hybu a hyrwyddo'r iaith Gymraeg.

Bu farw yn ei chartref yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn. 

Mae'n gadael ei gŵr, Peter Randerson, dau o blant, a thri o wyrion.   

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.