Swyddogion yn credu bod tân mewn adeilad amaethyddol ym Môn yn 'fwriadol'
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi dweud eu bod yn credu bod tân mewn adeilad ar Ynys Môn nos Wener wedi ei gynnau'n fwriadol.
Cafodd criwiau eu galw i'r tân mewn adeilad amaethyddol ym mhentref Llannerch-y-medd ar yr ynys am 20:00 ddydd Gwener.
Roedd chwe chriw yn bresennol pan roedd y digwyddiad ar ei anterth.
Cafodd yr ysgubor a'i chynnwys eu difrodi'n llwyr gan y tân.
.
