Daniel Craig a Ralph Fiennes benben yn y Golden Globes
Mae Daniel Craig a Ralph Fiennes ymhlith yr actorion sy'n arwain yr enwebiadau yn seremoni'r Golden Globes yn Los Angeles, America.
Bydd y noson wobrwyo yn cael ei chynnal nos Sul.
Yng nghategori'r actor gwrywaidd gorau, mae Daniel Craig wedi ei enwebu am ei ran yn y ffilm Queer. Mae'n portreadu Americanwr yn byw ym Mecsico yn y 50au ac yn syrthio mewn cariad â myfyriwr ifanc.
Mae Ralph Fiennes yn yr un categori ac wedi ei enwebu am chwarae rhan offeiriad yn ffilm Conclave.
Yn chwarae rhan gohebydd rhyfel yn y ffilm Lee, bydd Kate Winslet yn cystadlu yn erbyn Angelina Jolie sy'n chwarae rhan y ddiweddar seren opera Maria Callas, yng nghategori'r actor benywaidd. Mae Nicole Kidman hefyd yn y categori hwnnw am ei rhan yn y ffilm erotig Babygirl.
Ymhlith y ffilmiau sydd wedi eu henwebu ar gyfer y Golden Globes - rhif 82, yng ngwesty'r Beverly Hills, mae Emilia Perez – sy'n adrodd stori arweinydd giang cyffuriau.
Ac mae'r seren bop Ariana Grande wedi cael ei henwebiad cyntaf am ei rhan yn y ffilm Wicked sy'n addasiad o'r sioe gerdd yn y West End a Broadway ac a ymddangosodd yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd, fis Hydref 2024.
Yn yr adran rhaglenni teledu, mae'r gyfres dywyll Baby Reindeer sydd ar Netflix wedi ei henwebu, yn ogystal â Monsters: The Lyle And Erik Menendez Story sy'n adrodd stori achos dau frawd a lofruddiodd eu rhieni yn 1989.
Mae'r actor Gwyddelig Andrew Scott hefyd wedi ei enwebu ar gyfer y gyfres Ripley ar Netflix