'Blaenoriaethu' £1bn tuag at drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru
Mae adran drafnidiaeth Llywodraeth y DU wedi addo y bydd £1bn yn cael ei fuddsoddi er mwyn trydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru.
Mewn datganiad ddydd Iau dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Mark Harper y byddai buddsoddiad “digynsail” mewn trafnidiaeth yng Nghymru yn "flaenoriaeth" iddyn nhw..
Byddai'r buddsoddiad yn dod a rhannau o ogledd Cymru o fewn awr i Fanceinion, meddai.
Daw wedi i Rishi Sunak gyhoeddi cwtogi rheilffordd HS2 yng nghynhdaledd y Blaid Geidwadol ym mis Hydref, gan ddweud y byddai prif reilffordd gogledd Cymru ymysg y prosiectau a fyddai yn derbyn arian yn ei le.
Ond mae’r Blaid Lafur wedi codi amheuon am yr addewid i drydaneiddio’r rheilffordd gan ddweud nad oes dadansoddiad wedi bod o gost gwneud y gwaith.
Fe addawodd Mark Harper hefyd £2.7m ar gyfer gorsafoedd newydd ar brif reilffordd De Cymru.
Dywedodd Mark Harper ddydd Iau: “Byddwn yn darparu buddsoddiad digynsail o £1 biliwn i ariannu’r gwaith o drydaneiddio Prif Reilffordd Gogledd Cymru.
“Bydd yn dod â rhannau o ogledd Cymru o fewn awr i Fanceinion ac yn sicrhau teithiau mwy prydlon a dibynadwy ar y llwybr 105 milltir rhwng Crewe a Chaergybi, gyda chysylltiadau i Lerpwl, Warrington a Wrecsam.”
Roedd yn rhan o gynllun £36 biliwn i fuddsoddi mewn trafnidiaeth ar draws y Deyrnas Unedig yn sgil y penderfyniad i gwtogi ar reilffordd HS2, meddai.
‘Blaenoriaeth’
Yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mercher roedd y Blaid Lafur wedi codi amheuon am y cynllun gan awgrymu y gallai gostio mwy na £1 biliwn i’w gwblhau.
"Fe wnaeth y Prif Weinidog addo pan y gwnaeth gwtogi HS2 y byddai'r rheilffordd yng ngogledd Cymru yn cael ei drydaneiddio ar gost o biliwn o bunnoedd,” meddai Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru Jo Stevens.
“Yn yr wyth mlynedd diwethaf, mae costau adeiladu wedi cynyddu o 7% yn flynyddol yn sgil camreolaeth economaidd y llywodraeth, felly a oes modd cadarnhau mai'r tro diwethaf i unrhyw asesiad risg ar drydaneiddio gael ei wneud oedd yn 2015, ac felly bydd bellach yn costio rhwng £1.5 ac £1.8 biliwn?"
Ymatebodd gweinidog Swyddfa Cymru Fay Jones drwy ddweud: "Dwi'n meddwl mai beth sy'n bwysig yma ydi cydnabod mai dyma'r llywodraeth gyntaf ers degawdau i ymrwymo i'r prosiect yma.
"Dwi'n ymddiheuro ei bod hi'n ymddangos i gytuno gyda'i chyd-weithwyr yn llywodraeth Llafur Cymru ym Mae Caerdydd sy'n ymddangos i ddweud nad yw hyn yn flaenoriaeth.
"Mae ochr yma'r Tŷ yn teimlo bod trydaneiddio a thwf economaidd yng Ngogledd Cymru yn flaenoriaeth a dwi'n ymddiheuro nad yw hi'n gallu cytuno gyda hyn."