
‘Corachod Nadolig’ yn gosod arwyddion 30 mya ar ffordd ‘beryglus’
Mae pentrefwyr yn dweud bod “corachod Nadolig” wedi gosod arwyddion 30 mya mewn pentref yng Nghonwy.
Y nod medden nhw yw annog pobl i beidio â gyrru’n rhy gyflym drwy bentref Glasfryn.
Mae’r pentref ar yr A5 ac mae’r terfyn cyflymder wedi glynu at 60mya.
Ond mae trigolion yn dweud y byddan nhw'n addurno coeden Nadolig y pentref gydag arwyddion 30 mya erbyn i’r goleuadau gael eu troi ymlaen nos Lun.
Mae pentrefwyr yn flin gyda Llywodraeth Cymru am osod arwyddion 60 mya y naill ochr i Glasfryn ddeunaw mis yn ôl.
Dim ond mater o amser yw hi cyn i rywun gael ei ladd ar y ffordd, medden nhw.
Fe wnaeth y Cynghorydd dros ward Uwchaled, Gwennol Ellis dweud ei bod hi’n poeni y gallai cerbyd daro'r bws ysgol sy'n mynd â phlant i Ysgol Cerrigydrudion.
“Mae rhai arwyddion 30 mya wedi ymddangos dros nos. Efallai mai’r corachod Nadolig fuodd wrthi,” meddai.
“Mae’r arwyddion yng nghaeau ffermwyr, felly dydyn nhw ddim yn gallu gwneud dim byd am hynny, ydyn nhw?”
“Fe wnaeth Llywodraeth Cymru osod arwyddion terfynau cyflymder cenedlaethol dros 18 mis yn ôl bob pen i’r pentref, gan annog pobl i yrru ar gyflymder o 60 mya. Roedden nhw wedi ymddangos yn sydyn.
“Ond mae gennym ni lawer o deuluoedd yn byw yn y pentref. Maen nhw’n byw reit ar ochr y ffordd, felly mae’r bws ysgol yn codi plant ar yr A5, ac mae gen i ofn bod rhywun yn mynd i yrru i gefn hwnnw rhyw ddiwrnod.
"Ond mae'n rhaid i ni fod yn ofalus i beidio â dychryn y plant oherwydd, yn y pen draw, eu cartref nhw ydi o. Maen nhw'n ofni am eu bywydau."

'Brawychus'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, “Rydym ar hyn o bryd yn diweddaru canllawiau ar derfynau cyflymder lleol. Yn ystod y cyfnod hwn mae adolygiadau ar derfynau cyflymder wedi'u gohirio.
"Unwaith y bydd y canllawiau newydd ar gael, byddwn yn adolygu terfynau cyflymder ar draws y rhwydwaith ffyrdd.”
Ond mae rhai o drigolion y pentref wedi mynegi eu pryderon dros y terfyn cyflymder yn ogystal, ac yn falch bod "cynorthwywyr Siôn Corn" wedi gosod yr arwyddion answyddogol.
“Rydyn ni’n meddwl bod naill ai cynorthwywyr bach Siôn Corn neu gorachod y Nadolig wedi addurno’r pentref a gosod rhai arwyddion terfyn cyflymder 30 mya,” meddai Euan Robertson.
“Mae nifer cynyddol o blant yn y pentref. Mae maes chwarae'r pentref ar yr A5 hefyd. Mae ceir yn teithio mwy na 60 milltir yr awr mewn ardal sydd yn ei hanfod yn ardal breswyl.
“Mae’n wirioneddol frawychus. Dwi’n cerdded fy nghŵn ar hyd yr A5 bob bore, ac mae traffig yn rhuthro heibio, yn aml yn y tywyllwch a phan mae'n wlyb, felly dwi’n gorfod gwisgo high-vis a ffaglau pen. "
Mae Angharad Roberts yn fam i dri o blant pump, saith, a 10 oed ac wedi byw yn y pentref ers wyth mlynedd.
“Mae’n ffordd beryglus oherwydd y cyfyngiad cyflymder,” meddai.
“Dydi pobl ddim yn arafu wrth weld plant yn cerdded, ond pan mae’r lori’n mynd heibio’n gyflym, mae rhuthr o wynt yn dod o’r lori pan fyddan nhw’n mynd heibio, ac mae’n ddigon cryf i fynd â phlentyn i’r ffordd.”