Newyddion S4C

Stigma a diffyg gwybodaeth yn arwain at 'sylwadau dwl' am ddiabetes

01/12/2023

Stigma a diffyg gwybodaeth yn arwain at 'sylwadau dwl' am ddiabetes

Mae dynes ifanc o Wynedd sydd â diabetes math 1 yn dweud bod stigma a diffyg gwybodaeth yn arwain at sylwadau "dwl ac anghywir" am y cyflwr. 

Fe gafodd Briall Gwilym, sydd yn 24 oed, ddiagnosis o ddiabetes pan yn saith oed. 

“Mae o yn rhywbeth dwi’n gorfod meddwl am yng nghefn fy mhen 24 awr o’r dydd, hyd yn oed os dwi ddim isho. Does ‘na ddim brêc o’r cyflwr,” meddai Briall wrth Newyddion S4C. 

'Stigma'

Yn ôl Briall mae stigma ac anwybodaeth yn dal i fodoli ac mae sylwadau negyddol yn gallu cael effaith. 

“Dwi’n cael llwyth o sylwadau, ‘wyt ti fod i fyta hwnna?’, ‘o’n i feddwl bod ti ddim fod i fyta hynna?” meddai. 

“Mae’n iawn i fi fyta pethau os dwi’n cymryd yr inswlin, a dwi'n meddwl bod pawb yn byta pethau 'da ni ddim fod i fyta weithia, weithia da ni'n gorfwyta carbs neu bethau melys, dydi pobl ddim yn byta diet cytbwys o hyd. 

“Weithia ma'na jôcs yn cael eu gwneud sydd ddim yn gywir ac yn ansensatif fatha ‘nei di gael diabetes os tin byta doughnuts na’, ma’ jyst diffyg gwybodaeth sydd gan bobl.

“Ond mae’r stigma a’r comments yn frustrating yn enwedig pan ti wedi bod yn trio, ac yr holl mae'n gymryd weithia ydy un diwrnod drwg. 

“Dwi meddwl os fysa pobl yn stopio beirniadu a mynd gyda’r osgo o ‘be fedran ni neu di help? Neu gydnabod bod hi’n anodd byw efo’r cyflwr 24 awr y dydd weithiau.

“Dwi wedi bod efo fo ers 17 mlynedd, dydi o ddim yn rhywbeth alla i switch off.”

Yn ôl Diabetes UK, mae gan hyd at 30% o bobl â diabetes math 1 anhwylder bwyta. Mae anhwylderau bwyta ddwywaith yn fwy cyffredin ymhlith pobl â diabetes math 1 na phobl heb y cyflwr.

Mae arbenigwyr yn dweud nad oes y fath beth â diet diabetig ac yn cynghori pobl â diabetes i fwyta diet iach a chytbwys, yn union fel pawb arall.

Image
newyddion
Briall Gwilym a'i chariad Sion

Er bod datblygiadau meddygol yn gwneud pethau yn haws, mae byw gyda’r cyflwr yn straen o hyd, meddai. 

“Mae o jyst mor gymhleth, mewn un ffordd mae o wedi neud fi’n berson gwell, dwi lot fwy penderfynol er bod fi wedi cael ambell i blip dwi’n dal i drio a dwi’n prowd o hynny.” 

'Cymhleth'

Roedd Briall yn arfer bod gyda chywilydd o’i chyflwr yn y Brifysgol a cafodd gyfnodau o beidio cymryd inswlin. 

Erbyn heddiw mae hi’n falch o’r ffordd mae hi’n ymdopi. 

“Dwi’n meddwl yng nghefn dy feddwl ma’ ‘na wastad rwbath sy’n deud ‘oh dwi'm isho neud o heddiw. Dwi ddim awydd, dwi jyst isho diwrnod chill heddiw ond yn anffodus dydi o ddim yn rhywbeth ti’n gallu jyst anghofio amdano fo, achos mae’r effaith gymaint gwaeth.

“A pam ti wedi byw efo fo am flynyddoedd, nes i yn sicr fynd yn fed up, a fy ffordd i o wneud hynny oedd peidio cymryd inswlin a pheidio edrych ar ôl fy hun.

“Mae o yn gyflwr mor gymhleth a weithia ti ddim yn meddwl yn rational ti jyst di cael digon a ddim isio dim i neud efo’r clefyd mewn ffordd.”

Mae Briall yn annog pobl i ddod i adnabod y cyflwr cyn gwneud sylwadau. 

“Dwi'n meddwl bod pobl ofn gofyn ond sa’ well genna os fysa'n nhw’n gofyn a gwrando yn hytrach na sterioteipio." 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.