Cyn-Brif Weithredwr S4C yn galw am ymchwiliad i'r sianel

30/11/2023
S4C a Sian Doyle

Mae cyn Brif Weithredwr S4C, gafodd ei diswyddo'r wythnos ddiwethaf, wedi annog Llywodraeth y DU i gynnal ymchwiliad i'r sianel ac i ymddygiad cadeirydd S4C.

Mae Sian Doyle, gollodd ei swydd yn sgil honiadau o fwlio o fewn y sianel, wedi ysgrifennu at Lucy Frazer, yr Ysgrifenydd Diwylliant a Chyfryngau, yn galw am ymchwiliad i nifer o "gwestiynau pwysig".

Mae Ms Doyle yn honni ei bod hi wedi mynegi pryderon nifer o weithiau am yr hyn oedd yn digwydd o fewn S4C.

Mae hefyd yn cyhuddo'r adran (y DCMS) o anwybyddu ei phryderon oherwydd mai sianel i Gymru ydy S4C.

"Mae wedi ei awgrymu i mi fod y diffyg gweithredu ar eich rhan chi neu'r adran oherwydd "Cymru yw e - does neb yn poeni," meddai

"Mae werth ystyried y cwestiwn - petai y materion yma wedi codi yn Lloegr - o fewn y BBC neu Channel 4 - fyddai eich hadran wedi cymryd yr un agwedd "hands off ?".

Mae hi wedi awgrymu y dylai unrhyw ymchwiliad geisio ateb nifer o gwestiynau penodol, gan gynnwys a oedd Cadeirydd y Sianel, Rhodri Williams, wedi ymddwyn bob tro er budd y sianel a'r bobl oedd yn talu'r drwydded.

Mae hi hefyd yn cwestiynu a wnaeth y Cadeirydd a'r Bwrdd lynu at egwyddorion Nolan o wasanaeth gyhoeddus.

Dywedodd llefarydd ar ran S4C nad oedd ganddyn nhw ddim i'w ychwanegu i'w sylwadau yr wythnos ddiwethaf. pan ddywedwyd fod y Bwrdd wedi cymryd y penderfyniad "anodd ond unfrydol" i ddiswyddo Ms Doyle.

Daeth y penderfyniad i ddiswyddo yn sgil tystiolaeth gafodd ei roi i gwmni cyfreithiol Capital Law, sydd wedi bod yn ymchwilio i honiadau o fwlio a "diwylliant o ofn" o fewn S4C

Nid yw manylion adroddiad Capital Law wedi eu rhyddhau'n llawn hyd yma.

Dywedodd llefarydd ar ran DCMS: "Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus sy'n cael ei ariannu gan ffi'r drwydded, mae'n bwysig bod S4C yn cynnal y safonau uchaf. Fodd bynnag, ni allwn wneud sylw ar faterion sy'n ymwneud â materion staffio unigol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.