Newyddion S4C

Dyn 26 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o gyfathrebu'n rhywiol â phlentyn

20/11/2023
Heddlu

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio dyn ar amheuaeth o gyfathrebu'n rhywiol â phlentyn.

Yn ôl y llu, mae dyn 26 oed yn parhau yn y ddalfa.

Roedd yr heddlu’n ymateb i honiadau am athro ysgol yng Ngwynedd. 

Mae’r awdurdod lleol yn cyfeirio pob ymholiad at yr heddlu. 

Mae ymchwiliad y llu yn parhau, medd llefarydd ar ran Heddlu'r Gogledd brynhawn dydd Llun.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.