Page eisiau gorffen ymgyrch gyda pherfformiad da
Mae rheolwr Cymru Rob Page wedi annog ei dîm i orffen eu hymgyrch gyda pherfformiad da yn erbyn Twrci nos Fawrth.
Prin ydi gobeithion y tîm o gyrraedd pencampwriaeth yr Ewros yn syth bellach, wedi iddyn nhw gael gêm gyfartal yn erbyn Armenia ddydd Sadwrn. Ond maen nhw'n debygol o gael cynnig arall yn y gemau ail-gyfle mis Mawrth.
I sicrhau lle yn awtomatig yn yr Ewros, bydd rhaid i Gymru guro Twrci nos Fawrth, a gobeithio y bydd Croatia'n methu curo Armenia.
Wedi'r gêm yn Yerevan,dywedodd Rob Page;"Ry ni'n teimlo'n isel ar y foment, oherwydd nid dyma'r canlyniad roedden ni eisiau nac ei angen.
"Ond mae 'na dal obaith i ni, a ry ni eisiau perfformiad da nos Fawrth. Y bwriad nawr yw i ni orffen ar nodyn uchel."
Wedi'r gêm, dywedodd capten Cymru Ben Davies nad oedd ei dîm wedi creu digon.
"Ni'n gwbod beth mae rhaid i ni neud yn erbyn Twrci, a gobeithio bydd Armenia'n gallu gwneud rhywbeth i helpu ni mâs," meddai mewn cyfweliad gyda rhaglen 'Sgorio'.