Newyddion S4C

Ysbyty yn Gaza yn 'ardal o farwolaeth'

19/11/2023
Ysbyty al-shifa Gaza

Mae ysbyty al-Shifa yn Gaza yn "ardal o farwolaeth" yn ôl swyddogion Cymdeithas Iechyd y Byd, sydd wedi ymweld  â'r safle.

Bu grŵp oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o'r Cenhedloedd Iechyd yn yr ysbyty dros y penwythnos, wedi i fyddin Israel ei feddiannu.

Dywedodd y grŵp eu bod wedi gweld bedd wrth fynedfa'r ysbyty sydd yn ôl adroddiadau yn cynnwys 80 o bobl.

Mae 300 o gleifion sy'n ddifrifol wael yn dal yn al-Shifa - yr ysbyty mwyaf yn Gaza. Mae'r Palesteiniaid yn dweud fod byddin Israel wedi gorchymyn i bawb adael y safle, ond mae Israel yn gwadu hynny.

Mae Cymdeithas Iechyd y Byd yn dweud eu bod yn ceisio trefnu symud gweddill y cleifion a'r staff o'r ysbyty, a mae nhw wedi galw eto am gadoediad.

Mae'r Tŷ Gwyn yn dweud eu bod yn ceisio sicrhau cytundeb i ryddhau merched a phlant gafodd eu cipio gan Hamas. Yn ôl adroddiadau yn yr Unol Daleithiau, byddai hynny'n digwydd ar yr amod bod pum diwrnod o saib yn yr ymladd.

Dywedodd byddin Israel bod dau o'u milwyr wedi eu lladd yn ystod ymladd yn Gaza ddydd Sul. Cafodd chwech eu lladd ddydd Sadwrn. Bellach mae 58 o filwyr Israel wedi marw ers dechrau'r ymladd yn Gaza.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.