Datganiad yr Hydref: Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru yn galw am gymorth 'ychwanegol'
Mae Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru wedi galw ar Lywodraeth y DU am gymorth “ychwanegol” er mwyn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Mae disgwyl i’r Canghellor Jeremy Hunt gyhoeddi Datganiad yr Hydref ddydd Mercher, a fydd yn diweddaru gwleidyddion ar sefyllfa ariannol y wlad, gan gynnwys trethi a chynlluniau ar wariant cyhoeddus.
Ond mae’r AS Rebecca Evans wedi galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau eu bod yn darparu “cyllid teg i Gymru".
Mae hefyd yn galw am well fuddsoddiad mewn diogelwch tomenni glo a seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru.
"Rydyn ni'n wynebu pwysau eithriadol ar ein cyllideb o ganlyniad i gyfnod hir o chwyddiant uchel, ynghyd â'r cyfuniad gwenwynig o fwy na degawd o gyni ac effeithiau parhaus Brexit,” meddai.
"Mae'r holl wasanaethau cyhoeddus yn wynebu penderfyniadau anodd tu hwnt ac mae'r GIG a'r awdurdodau lleol yn sôn am heriau eithafol ar draws eu cyllidebau, gan gynnwys pwysau sylweddol ar wasanaethau ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a digartrefedd.
"Bydd effaith sylweddol ar ddyfodol uniongyrchol ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol os bydd Llywodraeth y DU yn methu â buddsoddi.”
‘Ailgysylltu’
Mae Ms Evans wedi galw am £20 miliwn ychwanegol gan Lywodraeth y DU er mwyn cefnogi’r gwaith o adfer safleoedd tomenni glo.
Roedd y Gweinidog hefyd yn awyddus i nodi diffyg buddsoddiad Llywodraeth y DU yn rheilffyrdd Cymru.
“Rydyn ni am i Lywodraeth y DU ailgysylltu â gwaith y Bwrdd Rheilffyrdd ar y Cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gyflwyno rhaglen fuddsoddi dreigl sy'n darparu'r seilwaith rheilffyrdd sydd ei angen ar Gymru," meddai.
Yn ôl adroddiadau, mae'r Canghellor yn ystyried torri cyfraddau trethi etifeddiaeth a busnes.
Ond dywedodd y Trysorlys nad oedd penderfyniad terfynol wedi ei wneud, ond fe wrthododd Jeremy Hunt â gwadu hynny.