
'Tabŵ' yn dal i fod ynghylch canser y ceilliau

'Tabŵ' yn dal i fod ynghylch canser y ceilliau
Mae dyn 34 oed o Gaerdydd sydd wedi cael canser y ceilliau ddwywaith yn dweud bod “tabŵ” yn dal i fod ynghylch y math yma o ganser.
Cafodd Iwan Williams ei ddiagnosis cyntaf pan oedd yn yr ysgol, ond eleni, ychydig fisoedd ar ôl priodi, fe ddaeth o hyd i lwmp arall.
Yn ôl un meddyg teulu o Sir Gaerfyrddin fe ddylai pobl a cheilliau hunan-archwilio bob mis.
Dywedodd cadeirydd Cynghrair Canser Cymru fod yn rhaid gwneud mwy i roi hyder i bobl siarad yn agored a mynd at y meddyg.
Fe ddaeth triniaeth Iwan i ben rai wythnosau yn ôl yng Nghanolfan Felindre, Caerdydd.

Mae’n dweud i’r misoedd diwethaf o radiotherapi a cemotherapi gael effaith fawr ar ei iechyd meddwl.
“O’n i’n teimlo wedi blino o hyd. O’n i ddim yn gweld pryd o’dd e’n mynd i ddod i ben,” dywedodd.
“O’dd e’n fwy o sioc tro hyn. Fi’n credu o’n i’n poeni hefyd am yr effaith ar fy ngwraig.
“Pan chi’n colli’r ail gaill, ma’ probleme’ ynglŷn a ffrwythlondeb a’r gobeithion o gael plant.
“Dw i’n ystyried defnyddio gwasanaeth cwnsela hefyd drwy Felindre.
“Mae e wedi bwrw fi – a fy ngwraig – ond pan ni’n teimlo’n isel, ni’n siarad.”
Archwilio
Mae Iwan hefyd yn annog pobl i archwilio eu ceilliau yn gyson.
“Y peth pwysig ydy os ‘dyn ni’n dal y canser yma’n gynnar, yna mae’r prognosis yn llawer, llawer gwell,” meddai'r meddyg teulu Dr Llinos Roberts.
“Wrth archwilio, fe fydden i’n defnyddio’r bawd a’r ddau fys. Rhoi bawd o flaen y caill, dau fys tu ôl y caill, a rolio’r caill rhwng y bysedd wedyn.
“Archwilio’r arwynebedd a gwneud yn siŵr nad oes unrhyw newidiadau.”
Mae ymgyrchoedd fel Movember yn ystod mis Tachwedd yn bwysig i godi ymwybyddiaeth, yn ôl Cynghrair Canser Cymru.
“’Fis dwetha’, mis Hydref, gafon ni breast cancer awareness month,"meddai llefarydd.
“A ma’ Movember yn ymgyrch hollol bwysig i ddynion – mae wedi agor i fyny o ganser y prostad.
“Rŵan canser y ceilliau ac iechyd meddwl dynion hefyd. Mae’n bwysig iawn.”
Neges bwysicaf Iwan wrth rannu ei stori, meddai, yw ceisio annog eraill i gael sgwrs agored am y math yma o ganser ac iechyd meddwl.
“Mae’n hynod o bwysig bo’ ni’n siarad. Fi’n credu bod tabŵ mawr o amgylch y pwnc, ond ‘sdim isie’ cywilydd.”