Archesgob Cymru'n croesawu dyfarniad Rwanda
Mae Archesgob Cymru wedi croesawu dyfarniad y Goruchaf Lys bod cynllun Llywodraeth y DU i yrru ceiswyr lloches i Rwanda yn anghyfreithlon
Dywedodd Andrew John: " Yr wyf wedi dadlau o’r blaen fod y polisi hwn hefyd yn anfoesol ac na ellir ei amddiffyn. Gobeithio y bydd y Llywodraeth yn awr yn derbyn dyfarniad y Llys."
Ond dywedodd y gweinidog dros fewnfudo Robert Jenrick ddydd Iau bod Llywodraeth y DU yn cymryd y "camau olaf" i sicrhau cytundeb newydd gyda Rwanda.
Dywedodd Mr Jenrick ei bod hi'n “hollol hanfodol” fod pobl yn cael eu cludo i Rwanda yn y gwanwyn.
Dywedodd ei fod yn “hyderus” y byddai cam o'r fath yn cael eu cyflawni, er gwaetha penderfyniad barnwyr i atal y cynlluniau blaenorol.
Roedd y penderfyniad yn ymwneud ag anfon ceiswyr lloches yn benodol i Rwanda, yn hytrach na'r egwyddor ehangach o anfon mudwyr i drydedd gwlad.
Dywedodd y Goruchaf Lys bod “sail sylweddol” i gredu y gallai pobl sy’n cael eu hanfon i Rwanda fel rhan o’r cynllun, fod mewn peryg o gael eu cludo i wlad arall, ble na fyddent yn ddiogel.
Ond mae’r Prif Weinidog Rishi Sunak bellach wedi dweud y byddai’r cynllun newydd yn sicrhau diogelwch ceiswyr lloches rhag cael eu cludo yn ôl i’w mamwlad gan awdurdodau Rwanda.