Newyddion S4C

Yr Arglwydd Cameron yn teithio i Kyiv ar ei ymweliad swyddogol cyntaf fel Ysgrifennydd Tramor

16/11/2023
cameron zelensky PA

Mae’r Arglwydd David Cameron wedi sicrhau Volodymyr Zelensky y bydd Prydain yn cefnogi Wcráin “am ba mor hir mae’n ei gymryd” wrth i’r Ysgrifennydd Tramor newydd ddefnyddio ei ymweliad tramor cyntaf i fynd i Kyiv.

Dywedodd arlywydd yr Wcráin iddo drafod y cyflenwad o arfau ar gyfer ei luoedd sy’n ymladd yn erbyn lluoedd Rwsia yn ystod ei gyfarfod gyda’r cyn brif weinidog.

Mewn fideo a ryddhawyd gan Kyiv, ceisiodd yr Arglwydd Cameron dawelu meddwl Mr Zelensky oherwydd ofnau bod llygaid y byd wedi symud o Wcráin i'r rhyfel yn y Dwyrain Canol.

Mae pryderon hefyd am y posibilrwydd y bydd Donald Trump yn dychwelyd i’r Tŷ Gwyn a chwtogi cefnogaeth ei wlad i Wcráin.

'Cefnogaeth'

Dywedodd yr Arglwydd Cameron yn ystod ei ymweliad tramor cyntaf: “Byddwn yn parhau i roi’r gefnogaeth foesol, y gefnogaeth ddiplomyddol, y gefnogaeth economaidd, ond yn anad dim y gefnogaeth filwrol sydd ei hangen arnoch chi – nid yn unig eleni a’r flwyddyn nesaf, ond am ba mor hir y mae’n ei gymryd.

“Cefais rai anghytundebau gyda fy ffrind Boris Johnson, rydym wedi adnabod ein gilydd ers 40 mlynedd, a’i gefnogaeth i chi oedd y peth gorau a wnaeth ef a’i lywodraethau.”

Cafodd yr Arglwydd Cameron y wybodaeth ddiweddaraf am wrth-ymosodiad araf Wcráin yn erbyn lluoedd Rwsia ac fe glywodd drafodaethau am ddyhead Kyiv i ymuno â Nato.

Wrth ysgrifennu ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd Mr Zelensky: “Cawsom gyfarfod da yn canolbwyntio ar arfau ar gyfer y rheng flaen, cryfhau amddiffynfeydd awyr, ac amddiffyn ein pobl a seilwaith hanfodol.

“Rwy’n ddiolchgar i’r DU am ei chefnogaeth!”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.