Rhagolwg rhanbarthau Cymru yn Rownd 6 Cwpan yr Enfys

Wedi’r gêm rhwng Gweilch a Benetton gael ei ohirio yn dilyn profion positif Covid-19 yng ngharfan y Gweilch, y tîm o’r Eidal fydd yn cynrychioli’r PRO14 yn rownd derfynol Cwpan yr Enfys penwythnos nesaf.
I’r Gweilch, dyna ddiwedd siomedig i’r tymor, yn dilyn eu colled draw yn Connacht penwythnos diwethaf.
Bydd Benetton yn chwarae ar eu tomen eu hunain, sef y Stadio Monigo yn Treviso, yn y rownd derfynol, yn erbyn y tîm ar frig adran De Affrica, sef Bulls neu Sharks.
Bydd y ddau dîm yn mynd benben â’i gilydd ddydd Sadwrn i benderfynu enillwyr yr adran.
Ar ôl tymor hir i ranbarthau Cymru, bydd Scarlets a Dreigiau yn dod â’u hymgyrchoedd i ben ddydd Sul, gyda Gleision Caerdydd a’r Gweilch eisoes wedi cwblhau eu tymhorau.
Dydd Gwener 11 Mehefin
Leinster v Dreigiau - CG 20.15
Fe ddechreuodd tymor y Dreigiau draw yn yr RDS yn Nulyn ym mis Hydref, a dyna ble fydd y Gwŷr Gwent yn gorffen y tymor hefyd, wrth iddyn nhw herio pencampwyr y Guinness PRO14 ar eu tomen eu hunain yng Nghwpan yr Enfys.
Mae datblygiad y Dreigiau wedi bod yn amlwg y tymor hwn, wrth iddyn nhw ennill chwe gêm yn ystod y tymor PRO14. Mae sawl chwaraewr wedi torri drwyddo i’r tîm cyntaf a pharhau i greu argraff, gan gynnwys Aneurin Owen, Rio Dyer, Taine Basham, Ben Fry a Ben Carter.
Oni bai am y chwaraewyr sydd i ffwrdd gyda’r Llewod, mae Leinster wedi dewis eu tîm cryfaf posib ar gyfer nos Wener, sydd yn dangos eu hawch i orffen y tymor yn gryf. Mae’r Dreigiau yn dechrau yn gryf hefyd, gyda Jamie Roberts ac Aneurin Owen yng nghanol y cae, tra bod Owen Jenkins a Josh Lewis yn dychwelyd i’r tri ôl.
Dyma hefyd fydd ymddangosiad olaf y prop profiadol, Brok Harris, wedi bron i saith mlynedd yng Nghasnewydd. Yn amlwg, mae hon yn gêm hynod o heriol ond mae’r Dreigiau wedi rhwystro Leinster fwy nag unwaith y tymor hwn, ac mi fydd Dean Ryan yn awyddus i weld ei dîm yn gwneud hynny eto y tro yma.
Dydd Sul 13 Mehefin
Scarlets v Caeredin – CG 13.00 (ar S4C am 10.05pm ar nos Lun)
Wedi blwyddyn anodd iawn heb dorfeydd, mi fydd y Scarlets yn dod â’u tymor i ben brynhawn dydd Sul gyda dros fil o gefnogwyr yna i’w cefnogi ym Mharc y Scarlets. Mae’r tymor wedi bod yn un siomedig i’r Gorllewinwyr, yn y Guinness PRO14 yn ogystal ag Ewrop, sydd wedi arwain at ymadawiad Glenn Delaney fel hyfforddwr. Dai Flanagan sydd wedi cymryd yr awenau tan ddiwedd y tymor, cyn i’r mab darogan ddychwelyd fel prif hyfforddwr – cyn fewnwr y Sosban, Dwayne Peel. Felly mae lot i’w edrych ymlaen ato'r tymor nesaf i gefnogwyr ffyddlon y Scarlets.
Mae’r Scarlets a Chaeredin eisoes wedi cwrdd ddwywaith yn y Guinness PRO14 y tymor hwn; roedd y ddwy gêm yn gwbl wahanol, ond yn hynod afaelgar ac adloniannol yn eu ffyrdd eu hunain hefyd. Scarlets enillodd y gêm ddiwethaf o 27 pwynt i 25, mewn clasur ym Murrayfield ym mis Chwefror, a hynny ar ôl i’r Albanwyr drechu’r Cochion o chwe phwynt i dri ym Mharc y Scarlets nôl ym mis Tachwedd. Gyda rhagolygon am amodau da ar gyfer y gêm ddydd Sadwrn, bydd disgwyl gweld mwy na naw o bwyntiau y tro hwn, wrth i’r ddau dîm anelu i orffen eu tymor yn bositif.