‘Troi cariad yn yrfa’: Penodi Adam yn yr Ardd yn Gyfarwyddwr Garddwriaeth Sioe Frenhinol Cymru
‘Troi cariad yn yrfa’: Penodi Adam yn yr Ardd yn Gyfarwyddwr Garddwriaeth Sioe Frenhinol Cymru
Mae’r garddwr Adam Jones, neu Adam yn yr Ardd, wedi cael ei benodi’n Gyfarwyddwr Garddwriaeth newydd Sioe Frenhinol Cymru.
Yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C, fe fydd Adam, o Sir Gaerfyrddin, yn gyfrifol am “ddathlu” ac “hyrwyddo” garddio yng Nghymru, fel rhan o’i rôl.
Mae’n awyddus i apelio at gynulleidfaoedd newydd, gan gynnwys y genhedlaeth iau, gan hefyd ddangos bod modd cael gyrfa lwyddiannus yn y maes, meddai.
Mae’r rôl yn cynnig cyfle “arbennig” i arddangos creadigrwydd rhagorol y Cymry, gan alluogi pobl “o bob haen o’r gymuned” garddio i ddod at ei gilydd, meddai.
Wrth drafod ei benodiad gyda Newyddion S4C, dywedodd: “Dwi mor gyffrous oherwydd dwi’n gweld y Sioe Fawr fel prif lwyfan i ddathlu garddwriaeth yng Nghymru.
“Dwi eisiau dangos bod ‘na greadigrwydd yng Nghymru.
“Mae gyda ni rhai o dylunwyr garddio gorau yn ein gwlad ni a dydyn ni ddim yn gwybod amdanyn nhw.
“Mae ‘da ni rhai o’r gerddi gorau, mae ‘da ni rhai o’r plastai sydd â’r gerddi fwyaf anhygoel welodd y byd erioed a ‘dyn ni ddim yn dathlu hynny ar blatfform rhyngwladol, achos dyna be’ ydy’r Sioe Fawr wrth gwrs, mae’n blatfform rhyngwladol.”
Inline Tweet: https://twitter.com/adamynyrardd/status/1724478010894459261
‘Cyffrous’
Dywedodd Mr Jones ei fod yn awyddus i fynd i’r afael â heriau’r gorffennol, sy’n cynnwys prinder cyllid.
Mae Cyfarwyddwr Garddwriaeth yn rôl wirfoddol, ac mae sawl gwirfoddolwr bellach wedi bod yn “gweithio’n galed i ymestyn a datblygu” cyfleoedd i'r dyfodol.
Er mwyn apelio at gynulleidfa ehangach, mae Mr Jones eisiau ymdrin â phynciau llosg fel newid hinsawdd, a hynny er mwyn “adlewyrchu’r realiti” o arddio heddiw, meddai.
“Mae ‘na gyfle newydd nawr i dynnu pobl mewn er mwyn iddyn nhw allu gweld bod garddio yn rhywbeth cyffrous.
“Mae’n rhywbeth sy’n digwydd yng Nghymru yn arbennig o dda,” meddai.
Fel rhan o’i rôl, mae Adam Jones hefyd am ddatblygu pentref garddwriaeth newydd ar gyfer y Sioe Frenhinol nesaf yn Llanelwedd, yn ogystal â sicrhau partneriaethau a noddwyr i gefnogi’r ymgyrch.
“Dwi eisiau i bobl sy’n mynd i Lanelwedd y flwyddyn nesa’ bod nhw’n cyrraedd y sioe a bod nhw’n sôn am arddio.
“Dwi eisiau i arddio fod ar flaenau tafod pawb,” meddai.