Newyddion S4C

Nifer y carcharorion o Gymru sy'n cysgu ar strydoedd ar ôl eu rhyddhau wedi treblu

15/11/2023
S4C

Mae nifer y carcharorion o Gymru sy'n ddi-gartref wedi iddyn nhw gael eu rhyddhau wedi mwy na threblu mewn blwyddyn, yn ôl ystadegau newydd.

Yn ôl ymchwil gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, roedd 332 o bobl sydd o dan adain gwasanaethau prawf Cymru yn cysgu ar y strydoedd yn 2023, o gymharu â 107 yn 2022 – sy'n gynnydd o 210%.

Mae'r casgliadau wedi eu cynnwys yn adroddiad Carchardai yng Nghymru gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd.

Mae casgliadau pellach yn dangos fod gan Gymru raddfa uwch o bobl wedi eu carcharu o gymharu â gwledydd eraill y DU, sef  177 i bob 100,000 o'r boblogaeth.

146 yw'r ffigwr yn Lloegr, 146 yn yr Alban a 100 yn Ngogledd Iwerddon.  

Mae'r asesiad hwnnw yn seiliedig ar y niferoedd a oedd yn cael eu cadw mewn carchardai yng Nghymru yn 2023.  

Mewn carchardai yng Nghymru yn ystod chwe mis cyntaf 2023, roedd cynnydd o 80% yn nifer y carcharorion a ymosododd ar garcharor arall o gymharu â'r un cyfnod yn 2022, gyda nifer yr ymosodiadau ar weithwyr mewn carchar wedi codi 43%.  Roedd cynnydd o 23% yn nifer yr achosion o hunan niweidio.

'Darlun digalon' 

Dywedodd awdur yr adroddiad Dr Robert Jones: “Mae'r casgliadau diweddaraf yn rhoi darlun digalon o'r gyfundrefn cyfiawnder troseddol yng Nghymru. 

“Wrth i'r gyfundrefn honno ddod dros bandemig Covid-19 pandemic, rydym yn gweld trafferthion yn parhau a nifer o broblemau yn dychwelyd 

“Mae'r ffaith nad oes data ar gyfer Cymru yn unig yn dal i achosi rhwystrau mawr er mwyn deall y sefyllfa a chyflwyno gwelliannau. 

“Bedair blynedd ers i ni ddatgelu fod gan Gymru y raddfa uchaf ym maes carcharu yng ngorllewin Ewrop, does dim ymdrechion i fynd i'r afael â hynny.

“Ry'n ni'n gweld nifer cynyddol o bobl yn gadael carchardai ac yn byw ar y strydoedd.  

Mae'r ystadegau hefyd yn dangos bod 21% o'r holl fenywod a gafodd eu dedfrydu i garchar yn 2022 yng Nghymru wedi cael dedfryd am gyfnod o fis neu lai.  

Yn 2022, roedd  226 o fenywod o Gymru o dan glo o gymharu â 218 yn 2021.

Ychwanegodd Dr Jones : “ Gan nad oes yr un carchar i fenywod yng Nghymru, mae'n glir bod cyfnod yn y ddalfa yn medru cael effaith ddifrifol ar sefyllfa menywod a'u teuluoedd  

“Fel sydd wedi ei nodi yn yr adroddiad, mae pryderon eisoes nad yw'r cynllun i gael canolfan breswyl i fenywod yn Abertawe yn mynd i ddatrys y broblem honno." 

“Dylai'r holl gasgliadau atgoffa swyddogion y llywodraeth am yr angen ar frys am newidadau mawr ym maes polisi ar gyfer dedfrydau yng Nghymru." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.