Newyddion S4C

Cip ar gêm ddarbi'r canolbarth yn y Cymru Premier nos Fawrth

Sgorio 14/11/2023
Lifumpa Mwandwe, Y Drenewydd

Bydd darbi’r canolbarth yn cael ei chwarae nos Fawrth gydag Aberystwyth yn anelu i ddringo allan o safleoedd y cwymp, tra bod Y Drenewydd yn bwriadu cymryd cam yn nes at hawlio lle yn y Chwech Uchaf.

Aberystwyth (11eg) v Y Drenewydd (4ydd) | Nos Fawrth – 20:00

Bydd y ddau glwb yn siomedig ar ôl cael eu gyrru allan o Gwpan Cymru brynhawn Sadwrn – Aberystwyth yn colli’n hwyr yn erbyn Y Bala, a’r Drenewydd yn colli ar giciau o’r smotyn yn erbyn Bae Colwyn.

Ond o ran y gynghrair, mae Aberystwyth wedi dringo oddi ar waelod y tabl am y tro cyntaf ers dechrau’r tymor yn dilyn dwy fuddugoliaeth yn olynol yn erbyn Pen-y-bont a’r Barri.

Mae Aberystwyth wedi ennill tair o’u 14 gêm gynghrair hyd yma, ac mae eu gwrthwynebwyr wedi derbyn cerdyn coch ym mhob un o’r gemau rheiny.

O safbwynt Y Drenewydd, mae nhw’n glwb sy’n tueddu i fynd ar rediadau eithafol, ac ar ôl wyth buddugoliaeth yn olynol at ganol Hydref, bellach mae’r Robiniaid wedi taro wal ac heb ennill mewn pedair gêm (cyfartal 1, colli 3).

Di-sgôr oedd hi yn y gêm gyfatebol ym mis Awst, ond Y Drenewydd enillodd y bedair gêm flaenorol rhwng y timau, ac mae hogiau Chris Hughes wedi ennill ar eu pedwar ymweliad diwethaf â Choedlan y Parc.

Record cynghrair diweddar: 

Aberystwyth: ✅✅❌➖❌

Y Drenewydd: ❌➖❌✅✅

Bydd uchafbwyntiau’r gêmau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.