Dynes wedi ei hanafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad yng Ngwynedd
13/11/2023
Mae dynes wedi dioddef "anafiadau allai beryglu ei bywyd" yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar ffordd yr A487, Bwlch Tal-y-llyn, ger Tywyn.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod y gwasanaethau brys wedi eu galw i’r safle am 14:40 ddydd Sul yn dilyn adroddiadau am wrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd.
Digwyddodd y ddamwain i'r gogledd o Westy Minffordd.
Cafodd un ddynes ei chludo i Ysbyty Stoke gydag anafiadau all beryglu ei bywyd.
Fe gafodd y ffordd ei chau am gyfnod cyn ail-agor am 22:00 nos Sul.