Newyddion S4C

Y cyn-Brif Weinidog David Cameron wedi ei benodi'n Ysgrifennydd Tramor

13/11/2023
cameron pa

Mae'r cyn-Brif Weinidog David Cameron wedi ei benodi'n Ysgrifennydd Tramor ddydd Llun.

Cafodd ei benodi wrth i'r Prif Weinidog Rishi Sunak ad-drefnu ei gabinet ar ôl iddo ddiswyddo'r Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman.

Mae Mr Cameron yn cymryd yr awennau gan James Cleverly yn y Swyddfa Dramor ac mae wedi ei wneud yn Arglwydd.

Mae Mr Cleverly wedi ei benodi'n Ysgrifennydd Cartref ar ôl i Mr Sunak ddod â chyfnod dadleuol Mrs Braverman yn y swydd i ben.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor newydd yn dilyn ei benodiad: “Efallai fy mod wedi anghytuno â rhai penderfyniadau unigol” a wnaed gan Rishi Sunak, ond mae “yn Brif Weinidog cryf a galluog, sy’n dangos arweiniad rhagorol ar adeg anodd”.

Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd yr Arglwydd Cameron: "Rwyf am ei helpu i sicrhau’r diogelwch a’r ffyniant sydd eu hangen ar ein gwlad a bod yn rhan o’r tîm cryfaf posibl sy’n gwasanaethu’r Deyrnas Unedig ac y gellir ei gyflwyno i’r wlad pan ddaw yr Etholiad Cyffredinol.

"Rwy’n credu mewn gwasanaeth cyhoeddus. Dyna a’m cymhellodd gyntaf i ymwneud â gwleidyddiaeth yn yr 1980au, i weithio mewn llywodraeth yn y 1990au, dod yn Aelod Seneddol yn y 2000au a rhoi fy hun ymlaen fel Arweinydd y Blaid a Phrif Weinidog.

"Mae Swyddfa Dramor y DU, ein Gwasanaeth Diplomyddol, ein Gwasanaethau Cudd-wybodaeth a’n galluoedd Cymorth a Datblygu yn rhai o’r asedau gorau o’u math unrhyw le yn y byd. 

"Gwn o fy nghyfnod yn y swydd eu bod yn cael eu staffio gan bobl wych, gwladgarol a gweithgar. Maent wedi cael eu harwain yn dda gan James Cleverly, ac edrychaf ymlaen at weithio yn y rôl newydd hanfodol gydag ef."

Gyrfa wleidyddol

Dechreuodd yr Arglwydd Cameron ar ei yrfa wleidyddol fel aelod seneddol dros etholaeth Witney yn 2001 - gan gynrychioli'r etholaeth honno hyd at 2016.

Roedd yn brif weinidog am gyfnod o chwe blynedd rhwng 2010 a 2016, ac yn arweinydd ar y Blaid Geidwadol rhwng 2005 a 2016.

Yn 2014 chwaraeodd ran ganolog mewn perswadio pleidleiswyr yr Alban i wrthod refferendwm ar annibyniaeth o’r DU, a’r flwyddyn wedyn fe enillodd ei blaid fwyafrif yn yr etholiad cyffredinol. 

Yn dilyn canlyniad y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016 fe gamodd i lawr fel prif weinidog, gyda Theresa May yn ei olynu.

Llun: PA

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.